Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn etholiadau yng Nghaerdydd, cofrestrwch eich diddordeb gyda ni: [email protected].
Edrychwch ar y 3 swydd etholiad rydym yn eu cynnig er mwyn paratoi ar gyfer etholiadau yng Nghaerdydd.
Wrth ymgeisio am unrhyw un o'r swyddi hyn, rydych yn cytuno i'r canlynol:
- Nid wyf wedi ac ni fyddaf yn cymryd rhan yn yr etholiad ar ran unrhyw ymgeisydd neu blaid wleidyddol.
- Ni fyddaf yn defnyddio unrhyw gyfryngau cymdeithasol sy'n mynegi fy safbwyntiau mewn perthynas â sut mae'r etholiad yn cael ei gynnal, nac mewn perthynas ag unrhyw ymgeisydd neu blaid wleidyddol sy'n gysylltiedig ag ef.
- Rwy'n 18 oed neu'n hŷn.
- Rwy'n cytuno i weithredu gydag uniondeb a phroffesiynoldeb.
- Rwy'n cytuno bob amser i drin pobl yn deg a chyda pharch ac aros yn wleidyddol niwtral.
- Mae gennyf sgiliau cyfathrebu da a gallaf weithio hyd eithaf fy ngallu.
Swyddog Llywyddu
Rhaid bod gan y Swyddog Llywyddu wybodaeth dda am weithdrefnau pleidleisio a bydd yn gyfrifol am reoli'r pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddynodedig.
Fel Llywydd, rydych yn gyfrifol am:
Gyfathrebu gyda deiliad allwedd yr orsaf bleidleisio cyn ac yn ystod yr etholiad.
Agor a chau'r orsaf bleidleisio ar amser.
Casglu a dosbarthu'r blychau pleidleisio.
Trefnu cynllun yr orsaf bleidleisio.
Cynnal diogelwch a chyfrinachedd papurau pleidleisio, blychau pleidleisio a gwaith papur swyddogol.
Dilyn y weithdrefn bleidleisio yn llym. Er enghraifft, gwirio bod pobl yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a derbyn papurau pleidleisio dilys yn unig.
Atal unrhyw ymyrraeth â'r broses bleidleisio.
Cyfarwyddo a goruchwylio Clercod Pleidleisio.
Sicrhau bod pob arwydd a hysbysiad yn glir, yn weladwy ac yn y lle cywir.
Cadw mynedfeydd yn glir ac yn daclus.
Byddai angen i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ddynodedig cyn i'r pleidleisio agor, a gadael ar ôl iddo gau. Rhaid i chi hefyd ddanfon y blwch pleidleisio i'r man gollwng dynodedig.
| Amser cychwyn | Amser gorffen |
|---|---|
| 6:30am | 10:30pm (yn fras) |
Rydym yn darparu hyfforddiant llawn.
Clerc Pleidleisio
Mae Clercod Pleidleisio'n cynorthwyo'r Swyddog Llywyddu i redeg gorsaf bleidleisio. Fel Clerc Pleidleisio, mae angen i chi wybod yr holl weithdrefnau pleidleisio a sut i ddelio ag unrhyw faterion cysylltiedig.
Rydych yn gyfrifol am:
Helpu i drefnu a sefydlu cynllun yr orsaf bleidleisio.
Monitro ciwiau a chyfarch pleidleiswyr pan fo angen.
Gweithio gyda'ch gilydd a dilyn cyfarwyddiadau gan y Swyddog Llywyddu.
Cynnal diogelwch a chyfrinachedd papurau pleidleisio, blychau pleidleisio a gwaith papur swyddogol.
Dilyn y weithdrefn bleidleisio yn llym. Er enghraifft, gwirio bod pobl yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a derbyn papurau pleidleisio dilys yn unig.
Atal unrhyw ymyrraeth â'r broses bleidleisio.
Sicrhau bod pob arwydd a hysbysiad yn glir, yn weladwy ac yn y lle cywir.
Cadw mynedfeydd yn glir ac yn daclus.
Byddai angen i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ddynodedig cyn i'r pleidleisio agor, a gadael ar ôl iddo gau.
| Amser cychwyn | Amser gorffen |
|---|---|
| 6:30am | 10:30pm (yn fras) |
Rydym yn darparu hyfforddiant llawn.
Cynorthwywyr Cyfrif
Rhaid i Gynorthwywyr Cyfrif gyfrif a dosbarthu papurau pleidleisio mewn lleoliad dynodedig ar ôl i'r bleidlais gau.
Fel Cynorthwy-ydd Cyfrif, rydych chi'n gyfrifol am:
Gyfrif nifer uchel o bapurau pleidleisio yn gywir, dros gyfnod cyfyngedig o amser.
Gwahanu papurau pleidleisio yn sypiau (er enghraifft, yn ôl ymgeisydd) gyda sylw uchel i fanylion a chywirdeb.
Gweithio'n ddiduedd, yn barchus, yn amyneddgar ac yn gyfrinachol.
Dilyn cyfarwyddiadau gan uwch gydweithwyr.
Gwirio cyfansymiau papurau pleidleisio a threfnu papurau pleidleisio i drefn ymgeisydd neu blaid wleidyddol yn gywir.
Ailgyfrif lle bo angen.
Mae angen i chi fod ar gael am gyfnod llawn y cyfrif. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i chi weithio am unrhyw gyfnod rhwng 4 a 12 awr.
Mae amseroedd dechrau a gorffen yn amrywio yn dibynnu ar y math o etholiad a'r nifer a bleidleisiodd. Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi yn nes at yr amser.
Sylwch na allwch adael y safle tra'n gweithio yn unrhyw un o'r rolau hyn. Ni chaniateir ysmygu.
Os ydych wedi gweithio gyda ni mewn etholiadau blaenorol, nid oes angen i chi wneud cais. Byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio eto yn y cyfnod cyn etholiad.
Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen ond heb weithio mewn etholiadau o'r blaen, bydd angen i chi wneud cais eto.
