Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Llefydd pwyllgor gwag ar gyfer Aelodau Annibynnol

Mae gan ddau o bwyllgorau'r Cyngor Aelodau Annibynnol neu Aelodau Lleyg. Diben hyn yw cefnogi llywodraethu da, stiwardiaeth ariannol a safonau ymddygiad uchel y Cyngor a'i Aelodau Etholedig. Mae gan Aelodau Annibynnol amrywiaeth o brofiad a sgiliau ac ​nid oes ganddynt gysylltiadau busnes â'r Cyngor.​

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yn ymchwilio a cheisio sicrwydd gan amrywiaeth o uwch swyddogion ac yn goruchwylio ac yn cyfrif am waith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys deuddeg aelod, sy'n cynnwys wyth Cynghorydd, a phedwar Aelod Annibynnol.  Mae'r cydbwysedd hwn o aelodaeth etholedig ac annibynnol yn cynnig darpariaeth gynhyrchiol, gadarn a deinamig o gyfrifoldebau'r Pwyllgor, sy'n cael ei arwain gan Gadeirydd Annibynnol.

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd.

Pwyllgor Safonau a Moeseg

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar gyfer y Pwyllgor Safonau a Moeseg ar hyn o bryd.

Rhaid i bob Cyngor gael Pwyllgor Safonau. 

Mae gan Bwyllgor Safonau a Moeseg Caerdydd gyfrifodeb i sicrhau bod aelodau etholedig y Cyngor a chwe Chynghorau Cymunedol yn cadw at safonau ymddygiad uchel ac yn gweithredu yn unol a'r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad statudol i Aelodau (267kb PDF).​​​

​Mae'r Pwyllgor yn cynnwys naw aelod I gyd:

  • Pum Aelod Annibynnol,
  • Tri Chynghorydd Sir, ac
  • Un Cynghorydd Cymunedol​