Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rheoli cyllid y cyngor

Ceir gwybodaeth yma am y canlynol:

  • rheoli risg
  • y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Atal Twyll, ac
  • yswiriant.

Gallwch gael gwybodaeth am ein datganiad cyfrifon.

Rheoli Risgiau Ariannol

Mae gan y Cyngor ddull gweithredu rhagweithiol o ran rheoli risg sy'n ein helpu ni i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau.

Mae cyfrifoldeb statudol arnom i archwilio, gwerthuso a monitro sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau, yn cynnwys ein cyllid, a gwneir y gwaith hwn gyda chymorth Archwilwyr Mewnol.

Mae'r Archwilwyr Mewnol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu mesurau cadarn i fonitro a rheoli risg, helpu i nodi gwelliannau, a sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau a'r rheoliadau. Maent hefyd yn helpu i ymdrin ag atal, canfod ac ymchwilio i achosion o dwyll a amheuir neu gamweinyddu ariannol.

Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Gwrth Dwyll

Ma'r tîm Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol sy'n seiliedig ar risg. Rhagor o wybodaeth am Archwiliad mewnol.

Mae'r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae'n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy'r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion. Rhagor o wybodaeth am Twyll.

Yswiriant

Mae holl asedau ffisegol y Cyngor - megis adeiladau, cerbydau a pheiriannau - wedi'u hyswirio, ac mae yswiriant atebolrwydd gennym hefyd ar gyfer colledion ariannol a allai ddigwydd yn sgîl difrod neu anafiadau a achosir gan y Cyngor, ei gyflogeion neu bobl eraill sy'n gweithredu ar ei ran, os dyfernir mai'r Cyngor sydd ar fai.

Mae ein hadran Yswiriant yn cydlynu'r gwaith o ymdrin â phob hawliad yswiriant a wneir gan y Cyngor neu yn erbyn y Cyngor. Os oes gennych ymholiad cyffredinol am yswiriant y Cyngor neu os ydych am wneud hawliad cysylltwch â ni.

Darllenwch fwy am wneud hawliad yn erbyn y Cyngor.

Caiff pob hawliad ei asesu'n unigol ac yn deg, a lle bod hawliadau yn gyfreithlon, ein nod yw eu talu cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw hawl awtomatig i gael iawndal - bydd angen i chi brofi mai'r Cyngor oedd ar fai yn unol â'r gyfraith.

Cysylltu â ni