Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Datganiad cyfrifon blynyddol

Rydym yn llunio datganiad cyfrifon ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae hon yn ddogfen dechnegol sy'n cynnwys yr holl ddatganiadau a datgeliadau ariannol sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rhaid i'r datganiadau:

  • gael eu harchwilio'n anibynnol i benderfynu a ydynt yn rhoi darlun cywir a theg o'n sefyllfa ariannol. Caiff unrhyw bryderon eu crynhoi mewn adroddiad archwilio
  • darparu atebolrwydd i breswylwyr, trethdalwyr a thalwyr rhenti, cynghorwyr etholedig, arianwyr, gweithwyr a rhanddeiliaid eraill
  • ein galluogi i gymharu a meincnodi gyda sefydliadau eraill
  • ein galluogi i gymharu ar draws blynyddoedd ariannol
  • bod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae hyn yn galluogi rhanddeiliaid i ofyn cwestiynau i ni a'n harchwiliwr.

Rydym hefyd yn paratoi datganiad cyfrifon ar gyfer sefydliadau eraill lle cawsom ein dynodi'n awdurdod arweiniol neu lle mae'n rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Yn ystod y flwyddyn ariannol, byddwn yn darparu hysbysiadau ynghylch pryd y gallai'r datganiad cyfrifon fod ar gael i'w weld. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau am ein gwaith i baratoi, archwilio a chyhoeddi ein cyfrifon.

Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.

Os hoffech weld dogfennau o flynyddoedd cyn 2021, cysylltwch â ni.

Hysbysiadau

  • Mae Rheoliad 10(1) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd llofnodi'r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio'i fod yn cyfleu darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2026.

    Nid yw'r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi, a bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad cyfrifon gan 30 Mehefin 2026. Mae hyn yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt gyda'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ar gyfer paratoi'r cyfrifon a chydnabod y newidiadau o ran prosesau parhaus a'r risgiau.
  • Yn dilyn cwblhau'r broses archwilio, bydd dogfennau a archwiliwyd ar gael yn y Gymraeg.

    Hysbysiad o ardystio cwblhau'r archwiliad 2024 i 2025 (PDF, 74 KB)

 

Cyngor Caerdydd yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd

 

Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

 

Chyd-bwyllgorau

Cyngor Caerdydd yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd ac Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru (CCDDdC)

Mae'r cyfrifon a'r hysbysiadau cysylltiedig ar gael ar wefan CCDDdC - Prifddinas-Ranbarth Caerdydd .

Archifau Morgannwg

Prosiect Gwyrdd

Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd

Cymeradwyir y ffurflen hon ochr yn ochr â chyfrifon y Cyngor.

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Ein safonau adrodd

Mae'r datganiadau ariannol yn dilyn y gofynion a bennir gan y Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon. Cyhoeddir y Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys y:

Rhagair

Mae hwn yn rhoi trosolwg o gyfrifon ac yn tynnu sylw at faterion ariannol sylweddol.

Datganiad Symudiad mewn Cronfeydd Wrth Gefn (DSCWG)

Mae hwn yn dangos y symudiad rhwng ein cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ac na ellir eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.

Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (DIGC)

Mae hwn yn dangos cost ein gweithgareddau yn unol ag arferion cyfrifyddu. Dangosir sefyllfa'r dreth gyngor (balans cyffredinol y gronfa) yn y DSCWG.

Mantolen

Mae hon yn dangos cyfanswm ein hasedau, ein rhwymedigaethau a'n gwerth net.

Datganiad Llif Arian Parod

Mae hwn yn esbonio symudiad arian parod, cywerthoedd arian parod, a gorddrafft banc yn ystod y flwyddyn.

Cyfrif Refeniw Tai

Mae hwn yn gyfrif statudol ar wahân sy'n dangos cyfanswm yr incwm a'r gwariant.

Nodiadau datgelu

Mae'r nodiadau'n ymwneud ag ystod o eitemau, gan gynnwys polisïau cyfrifyddu, taliadau, pensiynau, offerynnau ariannol fel buddsoddiadau a benthyca, eiddo, buddiannau mewn is-gwmnïau, ac eiddo, offer a chyfarpar.

Archwilio Cymru

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifeg neu Swyddog Cleient yw cynnal gwefan Cyngor Dinas Caerdydd; nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac o ganlyniad nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf ar y wefan.

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni am ein datganiadau blynyddol neu ein safonau adrodd blynyddol, cysylltwch â ni.

E-bost: [email protected]