Mae gan bob Cyngor yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cyllideb gytbwys i ariannu rhedeg eu gwasanaethau.
Daeth yr ymgynghoriad ar gyllideb 2026 i 2027 i ben ar 1 Chwefror 2026.
Datganiad gan yr Arweinydd, Y Cynghorydd Huw Thomas
Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach.
Dinas gryfach, gyda swyddi sy'n talu'n dda, addysg o ansawdd uchel, tai fforddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus gwych.
Dinas decach, lle gall pawb fwynhau'r cyfleoedd gwych o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef anfantais yn cael eu cefnogi a lle mae pob dinesydd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
A dinas wyrddach, sy'n arwain ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn cynnig opsiynau trafnidiaeth gyfleus, hygyrch, diogel a chynaliadwy. Rydym wedi gwneud cynnydd da yn erbyn yr uchelgeisiau hyn.
Ers 2022, rydym wedi cyflawni 25 o brosiectau ysgol mawr - yn cynnwys ysgolion newydd, ymestyn ysgolion a chreu cyfleusterau arbenigol - gan helpu i gryfhau safle Caerdydd fel un o'r ardaloedd sy'n perfformio orau o ran addysg yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar un o raglenni tai mwyaf uchelgeisiol y wlad, gyda tharged o 4,000 o gartrefi newydd erbyn 2035 - gyda 1,800 eisoes wedi'u hadeiladu. Mae ein Tîm Cyngor Ariannol wedi cefnogi pobl i gael mynediad at dros £68 miliwn o fudd-daliadau ychwanegol ac mae miloedd wedi cael eu helpu i mewn i waith.
Rydym wedi gwella rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas ac wedi dechrau gweithio ar linell tram Cledrau Croesi Caerdydd. Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y ddinas, gyda'r Arena dan Do newydd yn rhan o ailddatblygiad ehangach Bae Caerdydd. Yn yr un modd, rydym wedi buddsoddi yn ein canolfannau siopa ardal, hybiau lleol, llyfrgelloedd a pharciau a rhoi camau ar waith o ran yr Argyfwng Hinsawdd trwy gwblhau rhwydwaith gwres cyntaf y ddinas.
Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn wedi'i gyflawni yn wyneb amgylchiadau hynod heriol. Mae awdurdodau lleol ledled y DU yn wynebu heriau mawr. Mae'r galw am wasanaethau'n cynyddu, mae cost eu darparu yn uwch nag erioed o'r blaen, ac nid yw'r cyllid sydd ar gael i ni yn cyfateb â'r cynnydd yn y galw. Dyna pam mae gennym fwlch i'w gau yn y gyllideb.
Diolch i'r setliad cyllideb a gawsom gan Lywodraeth Cymru a rheoli ein cyllid yn effeithiol yn barhaus, ni fydd angen i ni wneud gostyngiadau i wasanaethau rheng flaen eleni.
Fel rydyn ni bob amser wedi'i wneud, bydd ein cyllideb yn adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn buddsoddi yn ein blaenoriaethau. Bydd yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, yn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen ac yn blaenoriaethu cyllid teg ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig cynnydd net yn y gwariant ar ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion.
Rhannwch eich barn gyda ni, drwy ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn erbyn 1 Chwefror 2026.
Y Cynghorydd Huw Thomas,
Arweinydd, Cyngor Caerdydd
Beth yw Bwlch yn y Gyllideb?
Bwlch yn y gyllideb yw'r gwahaniaeth rhwng y cyllid sydd ar gael gan y Cyngor - fel grant cyffredinol y Llywodraeth a'r Dreth Gyngor - a'r gwariant a ragwelir ar ddarparu gwasanaethau dros y flwyddyn i ddod. Mae angen i ni sicrhau bod y cyllid sydd gennym yn ddigon i dalu costau darparu ein gwasanaethau.
Mae'r Cyngor yn darparu cannoedd o wahanol wasanaethau i drigolion ledled y ddinas, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, gwastraff, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati.
Beth yw maint Bwlch Cyllideb y Cyngor?
Mae'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllideb rhagamcanol o £22.7 miliwn.
Pam mae'r Cyngor yn wynebu Bwlch yn y Gyllideb?
Mae sawl rheswm pam mae'r Cyngor yn rhagamcanu bwlch yn y gyllideb:
Galw Cynyddol am ein Gwasanaethau
Mae'r galw am wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu am sawl rheswm. Mae rhan o hyn oherwydd poblogaeth gynyddol Caerdydd, sy'n golygu bod mwy o bobl angen ein cefnogaeth. Yn ogystal, mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at nifer cynyddol o breswylwyr yn dibynnu ar ein gwasanaethau tra bod mwy a mwy o bobl angen cefnogaeth ddwys. Er enghraifft, mae'n rhaid i'r Cyngor gefnogi mwy o blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, mwy o oedolion sydd angen gwasanaethau dementia ac mae gan fwy o blant yn ein gofal anghenion cymorth sylweddol. Mae darparu addysg a gofal cymdeithasol - helpu plant, oedolion, a phobl hŷn sydd angen ein cefnogaeth - yn cyfrif am dros 74% o gyllideb y Cyngor, ac mae costau eu cyflawni wedi codi'n sylweddol.
Chwyddiant
Mae amrywiaeth o ffactorau, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, yn effeithio ar ein cyllid gyda chwyddiant yn cynyddu costau cyflenwi.
Sut rydyn ni'n bwriadu cau'r bwlch
Bydd angen mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb drwy gyfuniad o:
Arbedion Effeithlonrwydd
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly mae'n cynhyrchu arbedion trwy fesurau effeithlonrwydd na fydd yn effeithio ar lefelau gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys lleihau costau rhedeg adeiladau, lleihau'r gofod swyddfa sydd ei angen, a mabwysiadu technoleg newydd lle gall helpu i arbed arian.
Ffioedd a Chostau
Mae ffioedd a thaliadau yn helpu'r Cyngor i gau'r bwlch yn y gyllideb. Wrth i'r gost o ddarparu gwasanaethau gynyddu, efallai y bydd angen i'r Cyngor gynyddu ffioedd a thaliadau i helpu i dalu cost darparu'r gwasanaethau hynny.
Treth Gyngor
Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am tua 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor ond yn cynhyrchu incwm net o tua £2 miliwn, gan ei gwneud yn afrealistig cau'r bwlch yn y gyllideb drwy gynyddu'r dreth.
Defnyddio cronfeydd wrth gefn
Mae'r Cyngor hefyd yn cadw cronfeydd wrth gefn sydd, os byddant yn cael eu defnyddio, yn gorfod cael eu defnyddio'n ofalus gan fod y cronfeydd hyn yn gyfyngedig. Mae'r rhan fwyaf o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac maent eisoes wedi'u neilltuo, fel ariannu mentrau cymunedol untro neu gefnogi gwasanaethau atal digartrefedd. Mae'r Cyngor yn cynnal Balans Cyffredinol o £14.3 miliwn i dalu costau annisgwyl, sy'n cyfateb i lai na 1.7% o gyfanswm cyllideb net y Cyngor.
Ynglŷn â'r gyllideb
Mae cyllideb y cyngor yn cynnwys 2 brif ran:
- Gwariant refeniw (gwariant o ddydd i ddydd), a
- Gwariant cyfalaf (buddsoddi mewn seilwaith).
Mae gwariant refeniw yn cyfeirio at wariant ar wasanaethau o ddydd i ddydd fel:
- rhedeg ysgolion,
- gofalu am bobl sy'n agored i niwed,
- casglu gwastraff,
- cynnal parciau, a
- gweithredu llyfrgelloedd.
Mae'r Gyllideb Refeniw'n nodi faint fydd yn cael ei wario yn y meysydd hyn a sut y bydd hyn yn cael ei ariannu.
Mae gan wariant cyfalaf ffocws tymor hwy na gwariant refeniw. Mae'n cyfeirio at gaffael neu wella asedau. Er enghraifft, adeiladu ysgol newydd neu roi arwyneb newydd ar briffordd.
Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn rhaglen fuddsoddi sy'n nodi cynlluniau gwariant cyfalaf a sut y caiff y rhain eu hariannu dros gyfnod o 5 mlynedd. Bydd yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor ac yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n wynebu'r ddinas.
Bwlch cyllideb 2025 i 2026 (Cyllideb Refeniw)
Mae Cyllideb Refeniw 2025 i 2026 wedi'i phennu gan gymryd pwysau parhaus o ran prisiau a galw i ystyriaeth. Er ei fod ar lefelau is na'r blynyddoedd diwethaf, mae chwyddiant hefyd yn parhau i gynyddu costau.
Rydym yn amcangyfrif y bydd y gost o ddarparu gwasanaethau yn cynyddu £67.2 miliwn ar gyfer y cyfnod o 2025 i 2026. Er bod y setliad cyllido gan Lywodraeth Cymru yn well nag yr oeddem yn ei ddisgwyl (+5.3%), ni fydd y cyllid ychwanegol yn talu am y cynnydd hwn yn y gost yn llawn. Mae hyn yn gadael bwlch o £27.7m.
Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, mae'r rhan fwyaf o'r bwlch wedi'i gau drwy arbedion a mesurau corfforaethol (£18.3 miliwn). Mae mesurau corfforaethol yn cynnwys arbedion o ran costau Uwch Reolwyr a defnyddio cronfeydd wrth gefn. Rydym wedi cau'r gweddill drwy gynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor sy'n cynhyrchu o £9.4 miliwn. Bydd y cynnydd hwn yn sicrhau bod rhai o'n gwasanaethau allweddol yn cael eu diogelu. Bydd preswylwyr cymwys yn cael cymorth trwy Gostyngiad y dreth gyngor.
Arbedion (Cyllideb Refeniw)
Rydym wedi parhau i flaenoriaethu arbedion effeithlonrwydd. Mae'r rhain yn arbedion sy'n cyflawni'r un peth (neu fwy) am lai o gost, heb unrhyw effaith ar y preswylydd na'r cwsmer.
Mae arbedion effeithlonrwydd y gyfarwyddiaeth yn dod i gyfanswm o £12.5m ac maent wedi'u cynnwys yng nghyllideb 2025 i 2026. Rydym hefyd wedi gwneud £2.8m drwy arbedion a mesurau corfforaethol.
Fodd bynnag, oherwydd maint y bwlch yn y gyllideb, rydym wedi gwneud £3m o arbedion a fydd yn effeithio ar wasanaethau. Gweler y cynigion newid gwasanaethau ar Modern Gov.
Mae'r cynigion newid gwasanaethau'n gyson â'r adborth o ymgynghoriad y ddinas gyfan ar y gyllideb . Cawsom dros 3,000 o ymatebion. Mae'r cynigion newid gwasanaethau'n cynnwys cynnydd yn y pris am wasanaethau y codir tâl amdanynt , gan gynnwys:
- gwasanaethau profedigaeth,
- parcio i breswylwyr,
- cyrsiau dysgu am oes.
Mae cynigion hefyd i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr mewn Hybiau ac adolygu'r ffyrdd y darperir gofal.
Cefnogaeth i flaenoriaethau corfforaethol
Mae'r gyllideb yn parhau i gefnogi'r blaenoriaethau Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer y ddinas.
Mae hefyd yn ystyried yr adborth o'r ymgynghoriad, a nododd mai'r canlynol yw'r 3 prif flaenoriaeth o ran ariannu:
- Ysgolion ac addysg.
- Plant a theuluoedd sy'n agored i niwed.
- Oedolion a phobl hŷn sy'n agored i niwed.
Mae buddsoddiad yn y meysydd hyn yn nodweddion pwysig yn y Gyllideb Refeniw a'r Rhaglen Gyfalaf.
Mae Cyllideb Refeniw 2025 i 2026 yn cynnwys:
- £22.9m o gyllid ychwanegol i ysgolion (cynnydd o 7.5%).
- £19.4m o gyllid ychwanegol net ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed (cynnydd o 7.3%).
- £8.8m o gyllid ychwanegol net ar gyfer Gwasanaethau Addysg Canolog (cynnydd o 16%).
Mae yna hefyd fuddsoddiad untro o £4.5 miliwn mewn ardaloedd â blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi:
- mentrau adfywio cymdogaethau a pharciau,
- digwyddiadau cymunedol,
- diogelwch cymunedol, a
- trosglwyddo asedau'r cyngor i glybiau chwaraeon lleol.
Mae hefyd yn cynnwys cyllid i:
- cefnogi mentrau i blant a phobl ifanc,
- gwella cyfraddau ailgylchu,
- galluogi mwy o waith clirio draeniau, a
- darparu llochesi bws.
Rhaglen Gyfalaf 2025 i 2030
Mae'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2025 i 2026 yn ailddatgan ein hymrwymiad i wneud buddsoddiadau sylweddol yn nyfodol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn:
- tai fforddiadwy,
- adeiladau ysgolion,
- seilwaith trafnidiaeth a ffyrdd,
- gwella ansawdd aer,
- mynd i'r afael ag erydu arfordirol,
- newid swyddfeydd craidd (fel Neuadd y Sir), a
- mentrau datblygu economaidd, megis yr Arena newydd ym Mae Caerdydd.
Cynllun ariannol tymor canolig (Refeniw)
Mae'r cynllun ariannol tymor canolig yn dangos y byddwn yn wynebu bwlch cyllidebol pellach o £122m dros y 4 blynedd ar ôl 2025 i 2026. Y rheswm am hyn yw bod y galw a'r gost o ddarparu gwasanaethau yn cynyddu'n gyflymach na'r cyllid a ragwelir, a bydd angen cau bwlch o £40m yn y flwyddyn 2026 i 2027.
Wrth weithio i gau'r bwlch hwn, byddwn yn parhau i geisio gwella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau. Byddwn hefyd yn ystyried ein blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol yn ofalus trwy barhau i ymgysylltu â:
- trigolion,
- cymunedau, a
- rhanddeiliaid eraill.
