Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pa etholiadau ydw i'n cael pleidleisio ynddyn nhw?

Mae'r etholiadau y cewch bleidleisio ynddyn nhw yn dibynnu ar:

  • eich oedran,
  • eich dinasyddiaeth, a
  • lle y cynhelir yr etholiad.

Dinesydd tramor cymwys

Gall dinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru ac sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio yn:

  • Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd), ac
  • Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Ni chaiff dinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn Etholiadau Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.


Pwy sy'n cael eu hystyried yn ddinesydd tramor cymwys?

Rydych yn cael eich ystyried fel dinesydd tramor cymwys os oes gennych, neu os ydych yn cael eich trin fel rhywun sydd â chaniatâd, i ddod i mewn ac i aros yn y DU, ac nad ydych yn:

  • yn ddinesydd y Gymanwlad, neu
  • yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon.

Os oes gennych gwestiynau am eich hawl i bleidleisio, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2087 2088.

 

Pleidleisio yn 16 oed

Yng Nghymru gallwch gofrestru i bleidleisio yn 14 oed. Byddwch yn cael eich cadw ar y gofrestr etholiadol nes eich bod yn ddigon hen i bleidleisio.

Mae cofrestru yn 14 oed yn golygu y byddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad cyntaf ar ôl i chi droi'n 16 oed.

Yn 16 oed, gallwch bleidleisio yn:

  • Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd), ac
  • Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu y gallwch ddweud eich dweud ar bynciau sy'n effeithio arnoch chi a chymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Cymru a'ch ardal leol.

Mae angen i chi fod yn 18 oed i bleidleisio yn Etholiadau Llywodraeth y DU.

 

Gallwch ateb cwestiynau i ddarganfod pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddyn nhw ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Gallwch hefyd ddarganfod: