Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adnewyddu pleidlais bost

Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno newidiadau i:

  • sut rydych chi'n gwneud cais am bleidlais bost mewn etholiadau penodol, a
  • pa mor aml y gallai fod angen i chi adnewyddu pleidlais bost.

Gwiriwch pa etholiadau yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn, a sut y gallwch bleidleisio drwy'r post:

Etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae newidiadau i'r mathau hyn o etholiadau.

Gelwir etholiadau Seneddol y DU hefyd yn 'etholiadau cyffredinol'.

Dysgwch sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu.

Bydd angen i chi adnewyddu eich pleidlais bost bob 3 blynedd.

Os gwnaethoch gais am eich pleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu cyn 31 Hydref 2023, bydd angen i chi ei hadnewyddu cyn Ionawr 2026. Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost neu'r post i'ch atgoffa i drefnu i'w hadnewyddu.

Os na fyddwch yn ymateb pan fyddwn yn cysylltu â chi ynglŷn ag adnewyddu eich pleidlais bost, bydd eich pleidlais bost yn dod i ben. Dim ond yn eich gorsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi y gallwch bleidleisio wyneb yn wyneb.

Etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chymunedol

Nid oes newidiadau i'r mathau hyn o etholiadau.

Bydd angen i chi ddiweddaru eich llofnod gyda ni bob 5 mlynedd o hyd i bleidleisio yn y mathau hyn o etholiadau, yn ôl y gyfraith. Byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, tua dechrau'r un flwyddyn, i drefnu hyn.

Dysgwch sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chymunedol.

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth neu i wirio pryd y bydd eich pleidlais bost yn dod i ben, cysylltwch â ni.

E-bost: [email protected]