I bleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm y DU, mae'n rhaid eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio. Mae'n hawdd iawn cofrestru i bleidleisio ac nid yw'n cymryd mwy na 5 munud fel arfer.
Dim ond unwaith mae angen i chi gofrestru - nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu'ch cenedligrwydd.
Ydych chi'n gymwys i gofrestru i bleidleisio?
Gallwch chi gofrestru i bleidleisio os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac yn 14 oed neu'n hŷn, a'ch bod yn:
- Ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig,
- Dinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno,
- Gwladolyn tramor sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno, neu
- Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd.
Os ydych chi'n fyfyriwr, byddwch chi'n gallu cofrestru yn eich cyfeiriad cartref a'ch cyfeiriad yn ystod y tymor.
Dysgwch fwy am bleidleisio fel myfyriwr.
Dod o hyd i ragor o wybodaeth am gymhwysedd i gofrestru a phleidleisio ar wefan GOV.UK.
Cofrestru ar-lein
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.
I gofrestru gofynnir i chi am y manylion canlynol:
- eich enw llawn,
- eich cyfeiriad post,
- eich dyddiad geni, ac
- eich rhif yswiriant gwladol (os ydych yn 16 oed neu'n hŷn).
Mae eich rhif Yswiriant Gwladol i'w weld ar waith papur swyddogol fel slipiau cyflog neu lythyrau am fudd-daliadau neu gredydau treth.
Os na allwch chi ddarparu unrhyw un o'r manylion hyn am unrhyw reswm, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi wedi darparu eich cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost cadarnhau ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.
Os nad ydych chi wedi rhoi cyfeiriad e-bost, byddwch yn derbyn llythyr drwy'r post.
Cymorth i gofrestru ar-lein
Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, anabledd dysgu, gallwch chi ddefnyddio'r canllaw hawdd ei ddarllen (9.3mb PDF) ar wefan GOV.UK.
Cofrestru drwy'r post
Gallwch chi lawrlwytho ac argraffu ffurflen gofrestru i bleidleisio, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom.
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio (178kb) ar wefan GOV.UK.
Gwnewch gais i gofrestru mewn ieithoedd cymunedol
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen Cofrestru i Bleidleisio mewn nifer o ieithoedd cymunedol:
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Arabeg (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Bengaleg (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Cantoneg (PDF, 888 KB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Gwjarati (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Hindi (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Mandarin (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Pwyleg (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Pwnjabi (PDF, 1 MB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Somalieg (PDF, 345 KB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Tsieceg (PDF, 360 KB)
Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio Wrdw (PDF, 1 MB)
Post:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.
Cofrestru dros y ffôn
Gallwch chi gofrestru trwy ffonio 029 2087 2087.
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm.
Ydych chi eisoes wedi cofrestru?
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru ai peidio, byddwn yn gallu helpu. Cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 2088
E-bost: [email protected]
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
