Rydym yn cysylltu â phobl i ddweud wrthym pwy sy'n byw yn eu cyfeiriad nhw. Yr enw ar hyn yw canfasiad blynyddol.
hyn, gallwn ddarganfod pwy sy'n gymwys i bleidleisio.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi'r wybodaeth hon i ni. Cymerwch ychydig funudau:
- i fynd i'n gwefan Ymateb Aelwydydd,
- i roi eich cod diogelwch unigryw, ac
- i ddiweddaru'r wybodaeth am eich aelwyd.
Dylech gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.
Os ydych chi'n ychwanegu unrhyw bobl newydd sy'n byw yn eich cyfeiriad, bydd angen iddynt hefyd wneud cais i gofrestru i bleidleisio ar wefan GOV.UK.
Os yw'r wybodaeth yn gywir does dim angen i chi ymateb.
Dysgwch fwy am y canfasiad blynyddol a'r gofrestr etholiadol.
Darparu gwybodaeth fel person cyfrifol sengl
Os yw preswylwyr yn rhannu eiddo ond ddim yn ffurfio un aelwyd, bydd angen i un person cyfrifol sengl gwblhau'r canfasio blynyddol ar gyfer pawb sy'n byw yno. Gall hyn fod yn unrhyw un sy'n meddu ar neu â mynediad cyfreithlon at wybodaeth am bob person sy'n byw mewn eiddo. Gallai eiddo lle nad yw preswylwyr yn ffurfio un aelwyd fod yn:
- neuaddau prifysgol,
- cartrefi gofal preswyl,
- hosteli, a
- tai amlfeddiannaeth.
Os ydych chi'n berson cyfrifol sengl
Fel y person cyfrifol sengl ar gyfer yr eiddo, mae'n rhaid i chi roi gwybodaeth i ni am y bobl sy'n byw yno. Mae hyn yn cael ei ganiatau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae gennym hefyd hawl statudol i ofyn am wybodaeth gennych chi o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i ymateb. Os na wnewch chi hynny, gallech gael dirwy hyd at £1,000.
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am breswylwyr. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi ar adegau eraill. Er enghraifft, cyn etholiad. Ar ôl i chi ymateb i ni, gallwn gysylltu â phleidleiswyr cymwys yn yr eiddo i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i gofrestru i bleidleisio. Rhowch wybod i ni pryd bynnag y bydd pobl wedi symud i mewn neu allan o'r eiddo.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ymholiad neu os nad ydych bellach yn byw yn y cyfeiriad, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
