Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain ymdrechion o fewn Cyngor Caerdydd a gyda phartneriaid allanol i ddatblygu prifddinas lle gall pawb gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg, a lle mae staff y Cyngor hefyd yn cael eu cefnogi i ddatblygu unrhyw sgiliau ychwanegol sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r weledigaeth honno.
Mae tîm Caerdydd Ddwyieithog yn gyfrifol am ddyletswyddau statudol y Cyngor i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Maent hefyd yn darparu rôl gynghorol i sefydliadau eraill, ac yn hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ymhellach ar draws y ddinas.
Mae'r adrannau isod yn amlinellu'r gwahanol strategaethau ac adroddiadau sy'n rhan o'r gwaith hwn.
Mae dogfennau ar-lein Caerdydd Ddwyieithog yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn gwbl hygyrch ond yn y cyfamser, os oes angen copi arnoch, cysylltwch â ni.
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n manylu ar ei gydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau, llunio polisïau a materion gweithredol, fel sy'n ofynnol gan ei Hysbysiad Cydymffurfio (gweler isod am fanylion am yr Hysbysiad).
Cymeradwywyd adroddiad blynyddol 2024 i 2025 gan y Cabinet ar 19 Mehefin 2025.
Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2024 i 2025 (PDF, 908 KB).
Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog
Mae hon yn strategaeth ar gyfer y ddinas gyfan ac mae'n dibynnu ar weithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac addysg ac yn bwysicaf oll, gyda phobl Caerdydd.
Mae'r Strategaeth bresennol, sy'n weithredol rhwng 2022 a 2027, yn cynnwys targed i gynyddu nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a'r dysgwyr yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn chwarae ei rhan wrth gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Safonau'r Gymraeg
Disodlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae'n golygu bod gan y Gymraeg yng Nghymru statws cyfreithiol cyfartal â'r Saesneg ac na ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â set o Safonau Cenedlaethol y Gymraeg, a chyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg eu Hysbysiadau Cydymffurfio i awdurdodau lleol ar 30 Medi 2015.
Mae'r ddogfen hon yn rhestru pa rai o'r 176 Safon (fel y rhestrir yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015) y mae'n rhaid i sefydliad gydymffurfio â nhw, yn ogystal ag unrhyw eithriadau a'r dyddiadau gweithredu.
Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg 2021
Mae Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg yn cefnogi gweithredu'r Safonau sy'n ymwneud â Chynllunio a Hyfforddiant y Gweithlu (Safonau 127 i 135), Recriwtio a Phenodi (Safonau 136 i 140) a Hybu'r Gymraeg (Safonau 151 i 154).
Pwrpas y Strategaeth yw galluogi'r Cyngor i:
- adeiladu ar lwyddiant ei strategaeth Caerdydd Ddwyieithog
- cynnal trosolwg o sgiliau Cymraeg staff a'i gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel
- nodi a mynd i'r afael â meysydd o angen, a
- chydlynu ei weithgareddau hyfforddiant a recriwtio i sicrhau bod gan bobl Caerdydd fynediad cyfartal at wasanaethau p'un a ydynt yn dewis delio â'r Cyngor yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Y Gymraeg yng Nghaerdydd
Yn ôl Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol diweddaraf, Caerdydd bellach sydd â'r trydydd nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg allan o holl awdurdodau lleol Cymru, gyda 4,659 wedi'u cofnodi ar gyfer Treganna, sef y ward gyda'r nifer mwyaf.
Fel un o bedair ardal awdurdod yn unig i brofi unrhyw dwf mewn niferoedd siaradwyr ers 2011, a'r ardal a welodd y twf mwyaf yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, mae Caerdydd gyfan yn amlwg yn ardal o bwysigrwydd i ddyfodol yr iaith.
Bu twf yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, oherwydd y galw gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant, ac efallai'n bwysicach fyth, awydd cynyddol ymhlith rhieni Cymraeg a rhieni di-Gymraeg y ddinas i'w plant gael cyfle i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
O fod ag ond un ysgol gynradd Gymraeg ym 1979 mae gan Gaerdydd bellach 15 ysgol gynradd Gymraeg, 2 ysgol gynradd ddwy ffrwd (Cymraeg/Saesneg) ac ers 2023, 1 ysgol gynradd model iaith ddeuol (Cymraeg/Saesneg - ond gyda chyfran uchel o Gymraeg). Ar ben hynny, ceir 3 ysgol uwchradd Gymraeg.
Ymwelwch â gwefan Ein Dinas Ein Hiaith i ddod o hyd i addysg ddwyieithog a chyfleoedd i bawb.
Dogfennau perthnasol eraill
Mae'n ofynnol i'r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi nifer o ddogfennau polisi a chanllawiau sy'n ymwneud â sut mae materion iaith Gymraeg yn cael eu trin yn fewnol, ac yn allanol gyda'r cyhoedd a sefydliadau partner.
Rhestrir rhai o'r rhain isod a bydd y rhestr yn cael ei hychwanegu ato wrth i ddogfennau eraill cael eu datblygu.
Trydydd Partïon
Mae angen i sefydliadau sydd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer Cyngor Caerdydd gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg fel y maent yn ymwneud â'r gwasanaeth/contract penodol hwnnw. Mae'r Canllaw i Drydydd Partïon yn crynhoi gofynion y safonau a'i nod yw cynorthwyo sefydliadau i gydymffurfio â'r gofynion hynny.
Dyfarnu Grantiau
Er nad yw Cyngor Caerdydd yn dyfarnu unrhyw grantiau ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i'r Cyngor gael polisi ar waith ynghylch sut y byddai'n rhaid i unrhyw broses ariannu grant gynnwys ystyriaeth o'r Gymraeg. Y Polisi ar Ddyfarnu Grantiau yn unol â Safonau'r Gymraeg yw'r fersiwn gyfredol o'r ddogfen honno.
Datblygu Polisi
Pwrpas y polisi hwn yw cynorthwyo swyddogion i gydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg lle maent yn ymwneud â'r broses ddatblygu polisi, sy'n cynnwys gofynion ynghylch y broses ymgynghori, ymchwil berthnasol ac asesiadau effaith ystyrlon.
Y canllaw Datblygu Polisi a Chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yw'r fersiwn gyfredol o'r ddogfen honno.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn am bolisïau iaith Gymraeg Cyngor Caerdydd, cysylltwch â Chaerdydd Ddwyieithog.
