Mae Strategaeth Ddigidol Cyngor Caerdydd 2025 i 2030 yn nodi sut y byddwn yn defnyddio technoleg i ddarparu gwell gwasanaethau i ddinasyddion a chreu ffyrdd callach o weithio ar gyfer staff.
Ein 5 egwyddor allweddol
Mae gan y strategaeth 5 egwyddor allweddol:
- Mae'r dinesydd wrth wraidd ein dylunio.
- Bydd prosesau'n cael eu cefnogi gan yr atebion cywir.
- Bydd ein platfformau'n gweithio ar y cyd â'n gweithlu.
- Bydd ein technoleg yn cynyddu cydweithredu i wella canlyniadau.
- Bydd ein datblygiadau yn cael eu monitro, eu hasesu a'u gwella'n barhaus.
Mae'r egwyddorion hyn yn llywio sut rydym yn adeiladu, yn darparu ac yn gwella gwasanaethau, gan wneud yn siŵr eu bod yn hygyrch, yn effeithiol ac wedi'u dylunio gyda staff a dinasyddion mewn golwg.
Ein 4 thema allweddol
Wrth wraidd y strategaeth mae 4 thema:
- Dinasyddion a chymunedau.
- Cyngor digidol.
- Ein gweithlu.
- Ein seilwaith a'n systemau.
Lawrlwythwch ddogfen Strategaeth Ddigidol Cyngor Caerdydd 2025 i 2030 (PDF, 2 MB)
Rydym wedi lansio gwefan i gyd-fynd â'r strategaeth. Wrth i ni wneud cynnydd gyda'n cynlluniau digidol, byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar y wefan ac yn rhannu cyfleoedd i staff a'r cyhoedd ddweud eu dweud a chymryd rhan.
Ewch i'n gwefan Strategaeth Ddigidol Caerdydd.
