Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Polisi chwythu'r chwiban

​Mae'r Polisi Chwythu'r Chwiban yn nodi sut y gall gweithwyr godi pryderon heb ofn erledigaeth, gwahaniaethu neu anfantais. Chwythu'r chwiban yw'r term a ddefnyddir pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth am gamweddau yn y gwaith.  

Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf posibl o uniondeb, atebolrwydd a bod yn agored.  Fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw, rydym yn disgwyl i weithwyr a chontractwyr sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith ddod ymlaen a lleisio'r pryderon hynny. 

Os ydych chi'n weithiwr Cyngor Caerdydd, ewch i'r tudalennau AD ar y fewnrwyd i gael mwy o wybodaeth.

Mae staff contractwyr wedi'u cynnwys ym Mholisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor hefyd a dylent roi gwybod i ni am unrhyw bryderon am faterion yr ydym ni yn gyfrifol amdanynt neu am ymddygiad staff y cyngor. 

Byddwn yn ymchwilio i unrhyw bryderon yn llawn ac yn deg, a byddant yn cael eu cadw'n gyfrinachol. 

Darllenwch y Polisi Chwythu'r Chwiban (PDF, 221 KB)