Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Canllaw dylunio i fyw

Mae'r Canllaw Dylunio i Fyw (PDF, 12 MB) yn egluro sut bydd datblygiadau newydd yn helpu Caerdydd i fod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.

Mae'n egluro uchelgais y Cyngor ar gyfer dylunio trefol a phensaernïaeth sy'n creu ymdeimlad o le ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gyda datblygiadau strategol ledled y ddinas. 

Mae'r canllaw yn cynnwys deg 'egwyddor cynllunio allweddol' fydd â'r nod o greu cymdogaethau da i fyw ynddyn nhw, drwy gynllunio a dylunio da.

Uchelgais y Cyngor yw bod datblygiadau newydd ymhlith y gorau yn y DU ac Ewrop o ran dangosyddion ffordd dda o fyw, megis:

  • ​ansawdd bywyd, 
  • mannau gwyrdd a chyhoeddus, 
  • trafnidiaeth a chynaliadwyedd. ​

Bwriedir y canllaw hwn ar gyfer datblygiadau mawr, pan fo cymunedau newydd yn cael eu creu ac a fydd yn effeithio ar Gaerdydd a'r Dinas-Ranbarth.