Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwydded masnachwr stryd

Mae'r rhan fwyaf o strydoedd Caerdydd yn 'strydoedd gwaharddedig' o ran masnachu ar y stryd. Mae'n drosedd i fasnachu ar y stryd neu o fewn 35 metr i stryd waharddedig.

Rhestr o strydoedd dynodedig lle gwaherddir masnachu ar y stryd​ (PDF, 166 KB) Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Mae nifer fach o safleoedd trwyddedig hanesyddol yng Nghaerdydd lle caniateir masnachu ar stryd. Fodd bynnag mae'r cyngor yn benderfynol nad yw am ddyfarnu unrhyw drwyddedau newydd i fasnachu ar y stryd.

Mae caniatâd i fasnachu ar y stryd yn cynnwys mathau mwy anfynych o fasnachu ac fe'u cyhoeddir dim ond ar gyfer digwyddiadau mawr yn y ddinas ar safleoedd penodol.

Mae'n rhaid i bawb sy'n ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd gael eu harchwilio gan adran diogelwch bwyd a rheoli gwastraff y cyngor.

Am fwy o wybodaeth, gweler y Datganiad-Polisi-Trwyddedu-Masnachu-Stryd (PDF, 356 KB).

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth o ran sut i gyflwyno cais am ganiatâd i fasnachu pan fydd digwyddiadau yng Nghaerdydd cysylltwch â'r Adran Drwyddedu

Trwyddedu,

Cyngor Caerdydd,

Neuadd y Sir,

Glanfa'r Iwerydd,

Caerdydd,

CF10 4UW

Oriau agor

Dydd Llun i dydd Gwener: 10am - 3pm

Eithriadau

Mae eithriadau ar gael i werthwyr papurau newydd (yn yr unfan neu'n dosbarthu). Cysylltwch â ni i sicrhau eich bod wedi'ch eithrio cyn i chi ddechrau hyfforddi, neu efallai y caiff eich nwyddau eu hatafaelu a gallech wynebu gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1000.

Pedler

Pedler yw rhywun sy'n teithio a masnachu ar ei draed, gan fynd o dref i dref neu o dŷ i dŷ yn gwerthu nwyddau neu gynnig ei sgiliau gwaith crefft a gwerthu pethau fel lluniau, cadachau a nwyddau ar gyfer y cartref. Caiff person sy'n masnachu'n gyfreithiol dan dystysgrif pedler oddi wrth yr heddlu fasnachu mewn stryd ar sail gyfyngedig, cyn belled â'u bod yn dilyn y rheolau:

  • mae pedler yn gerddwr
  • mae pedler yn masnachu wrth deithio yn hytrach na theithio i fasnachu
  • mae pedler yn mynd at y cwsmeriaid yn hytrach na galluogi cwsmeriaid i ddod at y pedler
  • mae pedler yn werthwr yn hytrach nag atgyweiriwr
  • ni ddylai pedler aros yn ei unfan am gyfnodau maith o amser
  • ni ddylai pedler godi stondin ac aros i bobl ddod ato

Rhagor o wybodaeth:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

029 2087 1651

Gweler hefyd