Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhwydweithiau cyflogeion

Mae gan Gyngor Caerdydd nifer o grwpiau cyflogeion sy'n cynorthwyo cyflogeion ac yn eu galluogi i wella'r ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn gweithio fel cyflogwr.

Mae'r rhwydwaith cyflogeion yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiwylliant Cyngor Caerdydd, gan hefyd roi gwybod i gyflogeion bod cymorth a help ar gael pe bai angen.

Rhwydwaith Cyflogeion Lleiafrifoedd Ethnig (EDEN)

Mae'r Rhwydwaith EDEN yn grŵp amlddiwylliannol croesawgar a chefnogol sy'n ymgyrchu i wella amlygrwydd Cyflogeion o Leiafrifoedd Ethnig.

Pwrpas y Rhwydwaith EDEN:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i gyflogeion EDEN sy'n gweithio yng Nghyngor Caerdydd
  • Gweithredu fel fforwm cynghori ac ymgynghorol i'r Cyngor ar faterion cydraddoldeb hiliol a gweithdrefnau, polisïau ac arferion gwrthwahaniaethol
  • Cynnig lle diogel i darfod materion sy'n ymwneud â gweithio yn y Cyngor fel person EDEN.

Rhwydwaith Anabledd

Mae'r Rhwydwaith Anabledd yn cysylltu cyflogeion anabl mewn ffordd anffurfiol a chefnogol.

Diben y Rhwydwaith Anabledd yw:

  • Rhoi man diogel i drafod gweithio yn y Cyngor fel person anabl
  • Addysgu cyflogeion eraill a chodi ymwybyddiaeth o faterion ar gyfer cyflogeion anabl
  • Bod yn gorff cynghori a chefnogi'r Cyngor ar ei ddyletswyddau o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 ihyrwyddo ydraddoldeb, dileu rhagfarn a gwahaniaethu, a hyrwyddo arfer gorau fel Cyflogwr sy'n Hyderus ynghylch Anabledd.

Rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)

Mae'r Rhwydwaith LGBT yn cynnig lle cyfeillgar a chyfrinachol i gyflogeion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol gyfarfod a thrafod materion sy'n effeithio arnynt.

Diben Rhwydwaith LHDT+ yw cynnig:

  • Man diogel i drafod materion sy'n ymwneud â gweithio yn y Cyngor fel person LHDT
  • Ffyrdd o gyfrannu'n rhagweithiol at fentrau a pholisïau corfforaethol a rhoi adborth arnynt
  • Rhwydwaith y Merched

Mae Rhwydwaith y Merched yn grŵp dynamig sy'n cynorthwyo'r broses o ddyrchafu merched yng Nghyngor Caerdydd.

Mae'r rhwydweithiau hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle wrth sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Diben y Rhwydwaith Menywod yw:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod
  • Grymuso a magu hyder menywod
  • Hyrwyddo gwelededd modelau rôl ysbrydoledig
  • Cefnogi menywod i gyflawni eu potensial drwy gysylltu, dysgu a rhannu ag eraill
  • Rhoi cyfleoedd rhwydweithio mewnol ac allanol

Gofalwyr Rhwydwarth

Mae'r Rhwydwaith Gofalwyr yn cynnig fforwm cefnogol i gyflogeion sy'n Ofalwyr, gyda'r aelodau yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at bolisïau, gweithdrefnau a diwylliant y Cyngor.

Diben y Rhwydwaith Gofalwyr yw:

  • Rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gyflogai â chyfrifoldebau gofalu sy'n gweithio yng Nghyngor Caerdydd
  • Cynnig man diogel i drafod materion sy'n ymwneud â gofalwyr yn gweithio yn y Cyngor
  • Codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â gofalwyr

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'n rhwydweithiau cyflogeion mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltu â ni