Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Proses mewn ysgolion ar gyfer ADY

Mae gan berson ag ADY anhawster dysgu neu anabledd sy'n golygu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) arno.

Person arweiniol

Os oes gan eich plentyn ADY, rhoddir enw a manylion cyswllt y person arweiniol i chi. Dyma'r person fydd yn eich cynorthwyo chi a'ch plentyn drwy'r broses ADY gyfan.

Cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Byddwch chi a'ch plentyn yn cael eich gwahodd i gyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn yr ysgol. Bydd pobl eraill sy'n adnabod neu'n ymwneud â'ch plentyn yn cael eu gwahodd i fynychu a chyfrannu eu barn, er enghraifft:

  • athrawon,
  • athrawon arbenigol,
  • gweithwyr cymdeithasol, a
  • gweithwyr iechyd proffesiynol.

Byddwch yn trafod ADY eich plentyn gyda'r mynychwyr eraill ac yn penderfynu a oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arno.

Cynllun datblygu unigol (CDU)

Yn seiliedig ar y wybodaeth a rennir yn y cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd cynllun datblygu unigol (CDU) yn cael ei greu. Fel arfer mae CDU yn cael ei greu a'i adolygu gan yr ysgol.

Bydd y CDU yn cynnwys:

  • manylion eich plentyn (fel enw, oedran, cyfeiriad),
  • proffil sy'n amlygu'r hyn sy'n bwysig i'ch plentyn a'r ffordd orau y gall yr ysgol ei gefnogi a bodloni ei anghenion,
  • disgrifiad o ADY eich plentyn
  • disgrifiad o'r hyn y bydd yr ysgol yn ei ddarparu sy'n wahanol i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd (darpariaeth ddysgu ychwanegol),
  • cofnod gwybodaeth,
  • llinell amser y prif ddigwyddiadau, a
  • threfniadau pontio a thrafnidiaeth.


Adolygu'r CDU

Unwaith y bydd y CDU yn cael ei greu, mae'n rhaid ei adolygu o fewn blwyddyn. Os bu newid sylweddol yn amgylchiadau eich plentyn, gellir ei adolygu'n gynharach.

Bydd y cyfarfod adolygu yn debyg i'r cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.


Os ydych yn anghytuno â'r CDU

Os oes gennych unrhyw bryderon am y CDU, ewch ag ef at y person arweiniol yn yr ysgol. Os na allwch ddatrys eich pryderon, gallwn helpu. Cysylltwch â ni.

Os yw'r anghytundeb yn ymwneud ag asesiad, triniaeth neu wasanaeth y GIG, dylech siarad â'ch darparwr gofal iechyd yn gyntaf. Os na allwch ddatrys eich pryderon, cysylltwch â GIG Cymru.

Eiriolaeth

Os oes angen mwy o gymorth a chefnogaeth arnoch, gallwch ddefnyddio eiriolwr. Eiriolwr yw rhywun fydd yn mynychu cyfarfodydd gyda chi ac yn siarad ar eich rhan. Gall fod yn:

  • ffrind
  • aelod o'r teulu, neu
  • o asiantaeth broffesiynol.

Os oes angen eiriolwr proffesiynol arnoch, cysylltwch â SNAP Cymru.

Ffôn: 0808 801 0608
E-bost: [email protected]

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am anghenion dysgu ychwanegol neu gynlluniau datblygu unigol, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2087 2731
E-bostiwch: [email protected]

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru neu gwefan Tribiwnlys Addysg Cymru.