Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymagwedd a chyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn:

  • ystyried dymuniadau, barn a dyheadau'r plentyn neu'r person ifanc.
  • canolbwyntio ar y plentyn neu'r person ifanc.
  • sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc a'i riant neu ofalwr wrth wraidd y cynllunio a'r broses o wneud penderfyniadau.
  • sicrhau bod pobl ac asiantaethau eraill sy'n adnabod y plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan (er enghraifft, aelodau o'r teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, staff y grŵp chwarae, athrawon, gweithwyr cymdeithasol).
  • mae'n ymwneud â gwrando, arsylwi a dysgu yn barhaus.

Pam rydym yn trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Efallai y byddwn yn trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gael gwybodaeth gan bawb sy'n cefnogi'r plentyn. Gall hyn gynnwys:

  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; ac
  • athrawon neu staff y grŵp chwarae.

Yn y cyfarfodydd hyn, efallai y byddwn yn penderfynu a oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n gofyn am ddarpariaeth dysgu ychwanegol, neu a oes angen i ni wneud atgyfeiriadau amgen.

Beth sy'n digwydd cyn cyfarfod?

Bydd y person sy'n arwain y cyfarfod yn:

  • gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch plentyn yn rhan o'r broses,
  • gwahodd gweithwyr proffesiynol perthnasol i'r cyfarfod,
  • trefnu man cyfarfod addas, ac yn
  • casglu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen.

Bydd angen i bawb sy'n cael eu gwahodd i'r cyfarfod ystyried:

  • Beth rydym ni'n ei hoffi a'i edmygu am y plentyn?
  • Beth sy'n bwysig i'r plentyn?
  • Beth sy'n gweithio?
  • Beth nad yw'n gweithio?
  • Beth sy'n bwysig i'r plentyn nawr ac yn y dyfodol?

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Bydd y cyfarfod mor rhyngweithiol â phosib a bydd gan bawb gyfle i gyfrannu. Byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth y soniwyd amdani i greu cynllun gweithredu i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc yn yr ysgol neu'r coleg.

Beth sy'n digwydd ar ôl y cyfarfod?

Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn y cyfarfod i greu amrywiaeth o gynlluniau, megis:

  • cynllun gofal iechyd unigol,
  • proffil un dudalen, neu
  • gynllun datblygu unigol.

Os yw'r cynlluniau'n cael eu creu, mae'n rhaid eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.

Proffil un dudalen

Efallai y byddwn yn datblygu proffil un dudalen yn ystod y cyfarfod. Mae'r proffil yn rhoi cipolwg cadarnhaol ar y plentyn neu'r person ifanc ac yn cynnwys:

  • beth sy'n wych am y plentyn,
  • beth sy'n bwysig i'r plentyn, a
  • sut gallwn ni ei gefnogi.