Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynlluniau datblygu unigol

Mae cynllun datblygu unigol yn gynllun cytunedig o bwy fydd yn cefnogi'r dysgwr, beth fydd yn digwydd i'w gefnogi, a sut y caiff ei gefnogi.

Crëir CDU drwy gydweithio â'r dysgwr, ei riant neu ofalwr, ac asiantaethau eraill a allai fod yn gysylltiedig. Er enghraifft, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn.

Beth sydd yn y CDU?

Bydd CDU y dysgwr yn cynnwys:

  • Enw
  • Oedran
  • Yr enw yr hoffai ei ddefnyddio
  • Rhywedd a rhagenwau
  • Cyfeiriad
  • Enw'r ysgol
  • Sut mae'n cyfathrebu orau
  • Pwy sy'n gofalu am y CDU
  • Proffil Un Dudalen
  • Disgrifiad o'i anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Y ddarpariaeth a fydd ar waith i'w gefnogi yn yr ysgol a phwy fydd yn gwneud hynny
  • Digwyddiadau allweddol yn ei fywyd
  • Cofnod gwybodaeth
  • Trefniadau pontio
  • Trefniadau trafnidiaeth

Pwy sy'n ysgrifennu'r CDU

Caiff y CDU ei ysgrifennu gan yr ysgolion gyda'r dysgwr, ei deulu a phobl eraill sy'n ei adnabod.

Weithiau byddwn yn ysgrifennu'r cynllun.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?

Os yw'r ysgol yn ysgrifennu'r CDU, gall gymryd 7 wythnos ysgol. Os ydym ni'n ysgrifennu'r CDU, gall gymryd 12 wythnos.

Newidiadau yn y cynllun

Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Os yw rhywbeth wedi newid yn sylweddol ym mywyd y dysgwr, gall y cynllun gael ei adolygu'n gynt.

Yn ystod yr adolygiad, bydd y cynllun yn cael ei wirio i sicrhau ei fod yn dal i weithio ac a oes angen newidiadau.

Os ydych yn anghytuno â'r cynllun

Gallwch siarad â'r cydlynydd dynodedig neu athro dosbarth yn yr ysgol.

Mae'r cydlynydd dynodedig yn oedolyn yn yr ysgol sy'n adnabod y dysgwr yn dda a bydd yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ADY a CDUau.

Os oes gennych gwestiynau o hyd ar ôl siarad â'r ysgol, gallwch gysylltu â ni.

Ffôn: 029 2087 2731
E-bost: [email protected]

Y cymorth sydd ar gael

Os ydych chi neu'r dysgwr angen help drwy'r broses, efallai y byddwch am gael ffrind achos. Gall ffrind achos fod yn ffrind agos, aelod o'r teulu, gweithiwr cymdeithasol neu athro.

Mae ffrind achos yn wahanol i eiriolwr annibynnol, gan y gall ffrind achos arfer hawliau'r dysgwr ar ei ran. Mae eiriolwr annibynnol yn cynnig cyngor, cymorth a chynrychiolaeth.

Mae gan ddysgwyr a rhieni yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau