Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau oedolion

Ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir gan y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Gofal a chymorth amhreswyl

Mae'r holl daliadau am ofal amhreswyl yn cael eu penderfynu drwy asesiad ariannol. Efallai na fydd gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth ond dalu cyfraniad tuag at gyfanswm y gost wythnosol. Ni fydd defnyddwyr gwasanaeth yn gorfod talu mwy na chost y gwasanaeth a ddarperir.

Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r tâl wythnosol uchaf sy'n daladwy gan unrhyw un sy'n derbyn gwasanaethau amhreswyl. Mae hyn yn £100 yr wythnos. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r swm hwn ar hyn o bryd.

Math o ofal a chymorthCost 2025 i 2026
Gofal cartref (domestig) fesul awr£23.80
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Cynorthwywyr Personol a Microfentrau£17.30
Hyb Gofal (Y Tyllgoed, Minehead Avenue a'r Rhodfa Fawr) fesul dydd£20

Pryd ar Glud


Prif gwrs

Prif gwrs a phwdin

 


£6.01

£6.94

Teleofal


Cysylltu â theulu a ffrindiau yn unig (fesul wythnos)

Ymateb symudol (fesul wythnos)

Taliadau ychwanegol am becynnau offer (pecyn sylfaenol)

 


£4.67

£7.95

£163

Cartrefi gofal preswyl a nyrsio

Mae cost cyfraddau gofal ar gyfer lleoliadau mewn cartrefi gofal yng Nghaerdydd i bobl hŷn. Dyma'r cyfraddau y mae'r Cyngor wedi'u cyfrifo fel cyfradd cost gofal safonol categori'r lleoliad a restrir. Dylid nodi nad yw cyfraddau nyrsio yn cynnwys Gofal Nyrsio a Ariennir (FNC).

Mae'r holl daliadau am ofal preswyl yn cael eu penderfynu drwy asesiad ariannol. Efallai na fydd gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth ond dalu cyfraniad tuag at gyfanswm y gost wythnosol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gofyn i'r defnyddiwr gwasanaeth dalu cost lawn y gofal.

Math o gartref gofalCost y gofal (fesul wythnos) 2024 i 2025Cost y gofal (fesul wythnos) 2025 i 2026
Preswyl cyffredinol£978.53I'w gadarnhau
Nyrsio cyffredinol£1,014.16I'w gadarnhau
Preswyl (Dementia)£1,054.34I'w gadarnhau
Nyrsio (Dementia)£1,094.61I'w gadarnhau

Ffioedd y Cynllun Taliadau Gohiriedig (cyfradd llog)

Mae'r gyfradd llog yn cael ei phennu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol sy'n cael ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn ym mis Ionawr a Gorffennaf. Codir llog o ddiwrnod cyntaf y taliad gohiriedig a bydd yn adlog.

MisRate
Mis Ionawr i fis Mehefin 20264.85%

Taliadau eraill

Mae ffioedd y Taliadau Gohiriedig yn daliadau safonol i dalu'r costau yr ydym yn eu hysgwyddo wrth sefydlu a gweithredu'r Cytundeb Taliadau Gohiriedig. Mae i fod i roi syniad i chi o'r costau sydd ynghlwm.

Math o dâlCost o 1 Ebrill 2026
Cais (untro)£74.55
Cofrestrfa Tir a ffioedd cyfreithiol£240.69
Costau sefydlu (untro)£271.57
Tâl gweinyddol blynyddol£79.87