Bwriad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu tryloywder a bod yn agored ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus. Dan y Ddeddf mae gan unrhyw berson hawliau i weld gwybodaeth ar gofnod a gedwir gan y Cyngor.
Eich hawliau
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae gennych yr hawl i:
- Gael gwybod a ydym yn cadw cofnod o'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Byddwn fel arfer yn dweud wrthych o fewn 20 diwrnod gwaith.
- Gael datgelu'r wybodaeth i chi os ydym yn ei chadw. Oni bai ei bod yn dod o dan un o'r eithriadau yn y Ddeddf.
- Derbyn cyngor a chymorth rhesymol wrth wneud y cais.
Mae'r hawliau hyn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r eithriadau a osodir gan y Ddeddf a deddfwriaeth arall. Dim ond os nad yw datgelu'r wybodaeth er budd y cyhoedd y mae llawer o gyfyngiadau ac eithriadau yn berthnasol.
Pan ddatgelir gwybodaeth, byddwn fel arfer yn darparu copïau o'r cofnodion a gedwir. Dylai'r rhai sy'n gwneud cais fod yn ymwybodol mai hawl i gael y wybodaeth sydd agnddynt, nid i gael copïau o ddogfennau penodol a all gynnwys y wybodaeth. Gall gwybodaeth a ddatgelir fod yn ddarostyngedig i hawlfraint neu gyfyngiadau eraill ar ailddefnyddio.
Yr hyn y mae angen i chi ei ddarparu yn y cais
Ar gyfer eich cais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae'n rhaid i chi:
- Gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig
- Rhoi eich enw cyntaf a'ch cyfenw go iawn
- Rhoi eich manylion cyswllt isod.
Mae'r Cyngor yn gweithredu adran ganolog sy'n cydlynu ac yn prosesu Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Bydd yn helpu i brosesu eich cais os gallwch roi cymaint o fanylion â phosibl. Os na chawn ddigon o wybodaeth i brosesu eich cais, neu os nad yw'n glir, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Cyn i chi gyflwyno'ch cais
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio ein tudalen ymatebion ceisiadau cyhoeddedig i weld y wybodaeth ofynnol.
Rydym hefyd yn cyhoeddi Setiau Data. Rydym yn diweddaru'r rhain naill ai bob chwarter, bob hanner blwyddyn neu bob blwyddyn.
Os ydych yn gofyn am ddata personol, bydd angen i chi gyflwyno Cais gwrthrych data am Fynediad a gaiff ei brosesu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth
Gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth ar-lein:
Ffurflen Gais Rhyddid Gwybodaeth
Gallwch hefyd wneud cais Rhyddid Gwybodaeth drwy e-bost: [email protected]
Neu drwy'r post:
Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Gallwch ddarganfod sut rydym yn prosesu eich data personol cyn cyflwyno eich cais drwy ddarllen y Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Cais am Wybodaeth.
