Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud cais am recordiadau TCC

Gellir gwneud cais am Teledu Cylch Cyfyng (TCC) am amryw o resymau. Mae gennych hawl i ofyn am recordiadau:

  • ohonoch chi eich hun,
  • ar ran rhywun arall, neu
  • ar gyfer achosion cyfreithiol.

Gall y canlynol wneud cais amdano:

  • aelod o'r cyhoedd,
  • yr heddlu, neu
  • gwmni sy'n cynrychioli aelod o'r cyhoedd. Er enghraifft, cwmnïau yswiriant neu gyfreithwyr.

Pa mor hir rydym yn cadw recordiadau TCC?

Nid ydym yn cadw recordiadau am fwy na 31 diwrnod. Caiff y recordiadau eu dileu'n awtomatig ar ôl i'r 31 diwrnod fynd heibio, oni bai ein bod wedi derbyn cais ffurfiol am y recordiadau, neu eu bod yn berthnasol i ymchwiliad parhaus.

Nid ydym yn berchen ar bob camera TCC yng Nghaerdydd. Efallai na fyddwn bob amser yn gallu cael mynediad i'r recordiadau.

Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi

Ni fyddwn yn chwilio am y recordiadau oni bai bod y dogfennau perthnasol wedi'u cyflwyno. Os ydych chi'n gofyn am recordiadau ar ran rhywun arall neu ar gyfer achosion cyfreithiol, rhaid i chi gael caniatâd a phrawf adnabod gan y person (y gwrthrych data).

Bydd angen i chi hefyd roi cymaint o wybodaeth â phosibl, fel:

  • y dyddiad a'r amser penodol,
  • y lleoliad, a
  • disgrifiad ohonoch chi a'r hyn ddigwyddodd.

Gofyn am recordiadau

Gallwch wneud hyn ar lafar neu'n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r recordiadau i chi. Er enghraifft, os oes modd adnabod unigolion eraill yn y recordiadau.

Gallwch ofyn am recordiadau teledu cylch cyfyng drwy:

  • lenwi'r ffurflen ganiatâd,
  • anfon e-bost atom,
  • ein ffonio ni, neu
  • mynd i'ch Hyb lleol.

Gwneud cais am recordiad Teledu Cylch Cyfyng

E-bost: [email protected]

Ffôn: 029 2087 2088

Dod o hyd i'ch Hyb lleol

Ceisiadau'r heddlu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018

Gall yr heddlu wneud cais am recordiadau TCC dan Atodlen 2, Rhan 1 Paragraff 2 er mwyn:

  • atal a chanfod trosedd,
  • dal neu erlyn troseddwyr,
  • asesu neu gasglu unrhyw dreth neu doll, neu
  • gyflawni gwaith gorfodi o natur debyg.

Sut i wneud cais

I ofyn am recordiadau TCC o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, llenwch ffurflen gais Atolde​n 2 (Word doc, 54 KB) a'i hanfon atom.

E-bost: [email protected]