Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pam rydym yn defnyddio TCC yng Nghaerdydd

Rydym yn defnyddio TCC am sawl rheswm yng Nghaerdydd, er enghraifft:

  • i atal a chanfod trosedd, ac
  • i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig drwy dechnoleg Adnabod Rhifau Cerbydau'n Awtomatig.

Mae ein TCC yn dal delweddau a recordiadau byw o breswylwyr, ymwelwyr a gweithwyr ledled y ddinas.

Pwy sy'n gweithredu ac yn monitro'r camerâu TCC?

  • Dim ond gweithwyr hyfforddedig perthnasol Cyngor Caerdydd a all weithredu a monitro TCC.
  • Dim ond y rheiny sydd â diben cyfreithlon a fydd yn cael mynediad i'r ystafelloedd rheoli.

Bydd y gweithredwyr monitro TCC yn gyfrifol am gydymffurfio â Pholisi TCC Cyngor Caerdydd a'r cod ymarfer perthnasol.

Pwy alla i gysylltu â nhw i gael cyngor neu gwyno am TCC?

Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data.

E-bost: [email protected]

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.