Mae gan Gaerdydd 200km o hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau ceffylau. Rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau bod y llwybrau yn cael eu cynnal a'u mapio'n gywir.
Yng Nghaerdydd, mae gennym gategorïau o lwybrau sydd wedi'u cofrestru ar y Map Diffiniol:
- Mae llwybrau troed yn hawl tramwy i gerddwyr.
- Mae llwybrau ceffylau yn hawl tramwy i gerddwyr, marchogion (gan gynnwys yr hawl i arwain ceffylau) a beicwyr. Rhaid i feicwyr ildio i ddefnyddwyr eraill.
Nid yw'r holl lwybrau ar fap yr Arolwg Ordnans yn hawliau tramwy cyhoeddus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r Map Diffiniol. Mae mathau eraill o lwybrau nad ydynt ar y Map Diffiniol, megis:
- Mae priffyrdd mabwysiedig yn briffyrdd a gynhelir gan y cyhoedd sydd â mwy o waith cynnal a chadw na hawl dramwy gyhoeddus safonol.
- Mae llwybrau caniataol yn llwybrau y mae'r tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd penodol i'w defnyddio gan y cyhoedd.
- Defnyddir lôn werdd fel disgrifiad o lonydd sydd â llystyfiant dan draed neu wedi'u hamgáu gan wrychoedd. Nid oes ganddo unrhyw ystyr cyfreithiol.
Adrodd am broblem
Gallwch ddweud wrthym am broblem ar hawl dramwy gyhoeddus, megis:
- Problemau gydag arwyddbost neu gamfa,
- Llystyfiant wedi gordyfu,
- Materion neu rwystrau ar lwybr,
- Problemau gyda choed, neu
- Anifeiliaid peryglus.
Rydym yn gyfrifol am arwynebau'r llwybrau, yr arwyddion ac am wneud yn siŵr bod y llwybrau ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio a'u mwynhau. Byddwn yn cysylltu â'r tirfeddiannwr os yw'r mater sydd wedi'i adrodd yn ymwneud â thir y mae'n gyfrifol amdano.
