Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynnal yr hawliau tramwy

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn mynd dros dir sydd dan berchnogaeth breifat fel arfer. Fodd bynnag, mae'r cyngor, fel awdurdod y briffordd, yn gyfrifol am gynnal arwyneb yr hawl tramwy. Mae Burgess v Bwrdd Lleol Northwich (1880) yn nodi mai "dyletswydd y syrfëwyr priffyrdd yw cadw'r ffordd mor bwrpasol i'r cyhoedd mewn cyflwr digonol i fod yn ddiogel ac yn addas i draffig arferol".

Mae gan y cyngor, perchnogion tir a defnyddwyr yr hawliau tramwy cyhoeddus oll gyfrifoldebau sy'n cyfrannu at gadw llwybrau'n ddiogel ac yn hygyrch bob amser.

Arwyddbyst a chyferbwyntiau

Mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i osod arwyddbyst ar hawliau tramwy cyhoeddus lle maent yn gadael ffordd fetlin. Mae arwyddbyst a chyferbwyntiau ar hawliau tramwy hefyd yn arbennig lle nad yw'r daith yn amlwg.

Camfeydd a gatiau

Cyfrifoldeb y perchennog tir yw hi i ofalu am gamfeydd neu gatiau ar hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Fel arfer mae Cyngor Caerdydd yn cyfrannu lleiafswm o 25% o'r costau. O dan y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, gall y Cyngor dalu'r holl gostau i wella mynediad i bawb (h.y. amnewid camfeydd am gatiau).

Rhwystrau

Bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn gwneud archwiliad ac mae ganddynt y grym i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un y gwelir eu bod yn rhwystro hawl tramwy'n bwrpasol.

Troi a thocio

Gellir troi neu docio llwybrau sy'n mynd a draws caeau ar yr amod bod y llwybr wedi'i osod yn ôl o fewn 14 diwrnod. Ni ddylid troi na thocio llwybrau pentir.

Llystyfiant gwyllt

Mae perchnogion tir yn gyfrifol am docio gwrychoedd, coed neu lwyni sy'n hongian dros hawl tramwy cyhoeddus. Cyfrifoldeb Cyngor Caerdydd yw'r llystyfiant arwyneb a thyfiant ar i fyny ar hawliau tramwy, megis danadl neu fieri.

Teirw

Gellir cadw tarw mewn cae sydd â hawl tramwy'n ei groesi dim ond os yw'r tarw'n iau na 10 mis oed NEU mae gwartheg neu heffrod yn gwmni iddo.

Pontydd

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a thrwsio pontydd troed a cheffyl.

Arwyneb

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal arwyneb yr hawliau tramwy yn unol â statws y llwybr; er enghraifft bydd llwybr troed yn cael ei gynnal hyd at safon llwybr troed hyd yn oed os bydd yn cael ei ddefnyddio hefyd gan gerbydau preifat.

Llwybrau ceffyl

Bydd Cyngor Caerdydd yn gofalu am y llwybrausydd at ddefnydd marchogaeth ac nid oes gofyn i'r Awdurdod Priffyrdd hwyluso reidio beic ar lwybrau ceffyl.