Mae CGHT 2020-2030 Caerdydd yn strategaeth 10-mlynedd sy'n cynnwys nodau a thasgau allweddol fel rhan o'r gofynion statudol dan Adran 61 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Caerdydd 2020-2030 (PDF, 7 MB)
Mae'r Nodau Allweddol yn cynnig cynllun manylach o flaenoriaethau i lywio Cynlluniau Cyflawni Blynyddol. Cyhoeddir Cynlluniau Cyflawni bob blwyddyn ym mis Ebrill ac maent yn cynnwys tasgau penodol. Gall y rhain newid yn ystod y flwyddyn a byddant yn dibynnu ar y cyllid a'r staff sydd ar gael.
Cam 3 - Adolygu'r CGHT (2008-2018) cyntaf (PDF, 1 MB)
Cam 4 - Asesiad Newydd (PDF, 3 MB)
Mae manylion ar y broses a sut ydym am wneud hyn i'w cael isod.
A. Cefndir Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHTau)
Mae gan Gyngor Caerdydd rwydwaith o oddeutu 200km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC), sy'n cynnwys llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig. Ar ben hynny, mae sawl safle a llwybr sydd yn cynnig cyfleoedd mynediad yng Nghaerdydd megis llwybrau a ganiateir, llwybrau gwyrdd, llwybrau beicio, parciau a thir comin.
Ym mis Mehefin 2008 cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ei CGHT cyntaf, ei ddiben oedd i cynnig cynllun 10 mlynedd yn amlinellu sut fyddai'r tîm HTC yn rheoli a gwella ei gyfleoedd Hawliau Tramwy a mynediad o fewn y cyfnod hwnnw.
Yng Nghymru cynhyrchwyd 23 CGHT. Nawr, bron i 10 mlynedd ers cyhoeddi'r CGHT cyntaf, rhaid i awdurdodau lleol ystyried eu diwygio ai peidio. Yn sgil amrywiaeth o newidiadau deddfwriaethol a heriau economaidd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, maen nhw yn debygol o gynhyrchu CGHTau newydd a'u cyhoeddi nhw rhwng 2017-19. Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu adolygu a chyhoeddi CGHT 10 mlynedd newydd.
Roedd y CGHT cyntaf yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yn 2002, oedd yn amlinellu sut y dylid cynhyrchu'r CGHT a'r camau perthnasol. Roedd y rhain yn cynnwys ymgynghoriadau gydag aelodau'r cyhoedd ac amrywiol grwpiau â diddordeb, adolygiad o ddogfennau strategol perthnasol, asesiadau o gyflwr y rhwydwaith HTC presennol ac adolygiad o'r Map Swyddogol.
B. Amlinelliad y broses ar gyfer y CGHTau newydd
Bydd adolygiad a chyhoeddi CGHT newydd yn amodol ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru a ddiweddarwyd fis Gorffennaf 2016. I grynhoi , mae'n cynnwys:
- Gwerthuso cyflawniad y CGHT diwethaf
- Gwerthuso cyflwr presennol y rhwydwaith HTC a'i gofnod cyfreithiol
- Mynd i'r afael â materion statudol ac atodol (gw. tud 3 isod)
- Asesu anghenion y cyhoedd a nodi cyfleoedd
- Paratoi Datganiad Gweithredu a Chynlluniau Cyflawni newydd
- Datblygu ac adnewyddu cynlluniau cyflawni
- Cyhoeddi'r CGHT newydd drafft
- Cyhoeddi'r CGHT terfynol
- Rhoi'r CGHT newydd ar waith
Bydd y CGHT newydd yn wahanol i CGHT blaenorol yn y ffyrdd canlynol:
- Datganiad gweithredu a Chynlluniau Cyflawni; yn yr Atodlenni, bydd y Cynlluniau Cyflawni yn nodi cynlluniau gwaith tymor byr a hyblyg y gellir eu hadolygu a'u newid yn ôl yr angen. Bydd Datganiadau Gweithredu newydd (a fydd yn cynnwys y Cynlluniau Cyflawni) ond yn cynnwys cynlluniau gwaith hir dymor a strategol ar gyfer y cyfnod o 10 mlynedd.Roedd gan y CGHT cyntaf Ddatganiad Gweithredoedd na ellid ei newid ond trwy adolygiad llawn o'r cynllun.
- Arfarniad o'r CGHT cyntaf; y graddau y cyflawnwyd camau y CGHT diwethaf, gydag unrhyw gamau gweithredu perthnasol neu nas cwblhawyd yn cael eu cario ymlaen
- Adolygiad ar y cyfyngiadau a strwythurau awdurdodedig; Mae canllaw Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfarwyddyd i adolygu a darparu crynodeb o'r cyfyngiadau a'r strwythurau awdurdodedig ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Dolenni i gynlluniau a strategaethau newydd neu a ddiweddarwyd (cyf Cam 4, pwynt 2.a);Dolenni i gynlluniau a strategaethau eraill a ddatblygwyd ers y CGHT cyntaf, sy'n cyfeirio at deithio llesol (cerdded a beicio), mynediad i'r awyr agored, iechyd a llesiant a thrafnidiaeth. Yng Nghyngor Caerdydd, mae'r rhain yn cynnwys; Uchelgais Prifddinas, Cynllun Corfforaethol 2017-2019, Adroddiad Dinas Fyw, Dinas Byw 2017, Cynllun Trafnidiaeth 2015-2020, Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (2010), Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd 2006-2026 (Mabwysiedig), strategaeth 'Beth sy'n Bwysig' Caerdydd, Enfys (rhwydwaith feicio) a Mapiau Teithio Llesol, Bargen Ddinesig, Rhaglen Cymdogaethau Cerddedadwy, a Chynllun Gweithredu Seilwaith Werdd.
- Canolbwyntio ar rai nad sy'n cyfranogi; ystyried anghenion y cyhoedd ehangach gan gynnwys y rhai hynny nad sydd ar hyn o bryd yn cyfranogi mewn gweithgareddau hamdden awyr agored rheolaidd.
- Canolbwyntio ar ddefnyddwyr dall, rhannol ddall a symudedd; mwy o bwyslais ar ystyried anghenion deillion neu'r rhannol ddall a'r rhai â phroblemau symudedd.
Gweithredwyd y darnau canlynol o ddeddfwriaeth hefyd ers cyhoeddi'r CGHT cyntaf a bydd gofyn eu hystyried a'u hymgorffori yn y cynllun newydd:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; Rhan 2, pwynt 4 yn canolbwyntio ar 7 nod llesiant: Cymru ffyniannus, Cymru gydnerth, Cymru fwy iach, Cymru fwy cydradd, Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg hyfyw, Cymru gyfrifol ar lwyfan byd.
- Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llwybrau teithio llesol i gerddwyr a beicwyr, er mwyn hyrwyddo teithiau llesol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi Adroddiad ar y Ddeddf hon.
- Deddf Cydraddoldeb 2010; i raddau helaeth fe ddisodlodd hon Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ac mae'n nodi nifer o 'nodweddion a ddiogelir' gan ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn rhywun ar y seiliau hynny. Mae Adran 149 yn gosod 'dyletswydd cydraddoldeb sector gyhoeddus' wrth gyflawni ei swyddogaethau i ystyried yr egwyddorion hyn, y dylid eu hymgorffori yn llawn i'r CGHT newydd.
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; Datganiadau Ardal (Adran 11) a ddatblygwyd dan y Ddeddf hon
- Er ei fod yn ei le ar gyfer y CGHT cyntaf, bydd angen ystyried Deddf Llywodraeth Leol 1999 Rhan 1, Pwynt 3 yn y CGHT newydd; mae Adran 3 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn sicrhau gwelliannau parhaus ac yn ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth.
C. Cylch Gorchwyl
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 yw'r mecanwaith cyfreithiol dros ddrafftio ac adolygu CGHT (adran 61). Ymgymerir â'r adolygiad trwy gyfeirio at y materion statudol ac atodol sy'n gynwysedig ynddo:
Materion Statudol
- I ba raddau mae'r hawliau tramwy lleol yn bodloni anghenion y cyhoedd yn y presennol ac yn y dyfodol, gyda chynlluniau i'w rheoli a'u gwella
- Y cyfleoedd a ddarperir gan hawliau tramwy lleol am ymarfer corff a ffurfiau eraill ar hamdden yn yr awyr agored a mwynhau ardal yr awdurdod
- Hygyrchedd hawliau tramor lleol i bobl ddal neu rannol ddall neu rai sydd â phroblemau symudedd eraill
Materion atodol or ychwanegol:
- Arfarniad o I ba raddau mae'r CGHT wedi'i gyflawni
- Arfarniad o gyflwr presennol y rhwydwaith a'i hanes
- Cyfleoedd i gyfrannu at amcanion Teithio Llesol
- Cyfleoedd i gyfrannu at amcanion Llesiant
- Cyfleoedd i gyfrannu at gyflawni cynlluniau a blaenoriaethau
Dylem hefyd gynnwys
- Ystyried cynigion cynllunio cyfredol a newydd o ran y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
- Ystyried unrhyw gyfarwyddebau gan Lywodraeth Leol o ran ymgynghoriadau cyfredol neu newydd, yn benodol parthed PROW, e.e. 'Gwella cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored er mwyn hamdden cyfrifol', neu newidiadau deddfwriaethol eraill.
D. Amserlen Adolygu'r CGHT
Mae'r amserlen isod yn rhestri'r camau sydd i'w dilyn er mwyn llunio CGHT newydd diwygiedig diweddar ar gyfer Caerdydd. Mae'n cynnwys dyddiadau targed erbyn pryd y mae pob cam i'w gwblhau a chaiff ei dorri i lawr i wahanol dasgau.
Yn anochel, bydd rhai tasgau o bosibl yn newid neu'n datblygu fel adborth ac ystyrir barnau gwahano, felly mae dyddiadau targedau yn agored i'w hadolygu.
Bydd 2 ymgynghoriad arall; yn ystod yr Asesiad Newydd ar gam 4 a'r CGHT Drafft newydd ar gam 5 (y mae'n rhaid iddo fod am 12 wythnos o leiaf).
Ar ddiwedd cam 3, bydd gennym 12 mis i gyhoeddi'r CGHT newydd. Pan gaiff y CGHT newydd ei gyhoeddi, bydd angen i'r Cynlluniau Cyflawni gael eu monitro bob blwyddyn i alw'r ddogfen yn berthnasol dros y 10 mlynedd nesaf.
Camau | Tasg | Dyddiad targed |
|---|---|---|
Cam 1 | Adolygiad Cynllunio
|
Ebrill-Mai 2017 Awst-Medi 2017 |
Cam 2 | Ymgynghoriad Cychwynnol Dosbarthu Dogfennau:
Ymatebion i'r Adolygiad:
|
Hydref 2017
Tachwedd - Rhagfyr 2017 |
Cam 3 | Adolygiad o'r CGHT cyntaf (2008-2018)
|
Ebrill 2017 - Awst 2018 |
Cam 4 | Asesiad Newydd Gwerthuso cyflwr presennol y rhwydwaith a'i gofnod cyfreithiol
Arfarnu anghenion a chyfleoedd y dyfodol
|
Ebrill 2017 - Awst 2018
Hydref 2017 - Awst 2018 |
Cam 5 | Paratoi CGHT Drafft
|
Rhagfyr 2017 - Tachwedd 2018
Ymgynghori Rhagfyr 2018- Mawrth 2019 |
Cam 6 | Cyhoeddi'r CGHT Terfynol
| Chwefror 2020 |
Cam 7 | Sefydlu gweithdrefn monitro parhaus
|
|
