Edrychwch ar y datganiadau Adran 52.
Datganiad Cyllideb
Mae'r Datganiad Cyllideb yn cael ei baratoi yn unol â:
- Adran 52 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a
- Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) a'r canllawiau cysylltiedig.
Yn anffodus, nid yw rhai o'r datganiadau ar gael yn Gymraeg. Maen nhw'n cael eu cyfieithu ar hyn o bryd a byddant ar gael yn fuan.
Rhan 1: Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Rhan 1 yn dangos y gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob un o'n hysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig, ac eitemau memorandwm nad ydynt yn cael eu dyrannu i ysgolion unigol.
- Datganiad cyllideb 2024 i 2025 rhan 1 (Excel doc, 382 KB)
- Datganiad cyllideb 2023 i 2024 rhan 1 (Excel doc, 382 KB)
- Datganiad cyllideb 2022 i 2023 rhan 1 (Excel doc, 394 KB)
Rhan 2 a 3: Ffactorau cyllido ysgolion unigol a chyfran o'r gyllideb
Mae Rhan 2 yn esbonio sut mae pob cyllideb yn cael ei chyfrifo. Mae'n dangos ffactorau ariannu, gan gynnwys nifer y disgyblion a'u hoedran (Uned Disgyblion â Phwysoledd Oedran) a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae Rhan 3 yn dangos gwybodaeth ar gyfer pob ysgol (ariannol ac anariannol) a ddefnyddir i gyfrifo eu cyfran o'r gyllideb.
- Datganiad cyllideb 2024 i 2025 rhan 2 a 3 (Excel doc, 153 KB)
- Datganiad cyllideb 2023 i 2024 rhan 2 a 3 (Excel doc, 152 KB)
- Datganiad cyllideb 2022 i 2023 rhan 2 a 3 (Excel doc, 151 KB)
Datganiadau Alldro
Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth) rydym yn paratoi datganiad yn crynhoi:
- cyfran gyllidebol gynlluniedig,
- addasiadau yn ystod y flwyddyn,
- gwariant a chyllid cyfalaf,
- balansau a gyflwynwyd o'r flwyddyn ariannol flaenorol, a
- balansau a ddygwyd ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.
