Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cwmpas a chylch gwaith

Mae'r fforwm yn ystyried materion fel setliad y gyllideb refeniw i ysgolion, y fformiwla ddosrannu, contractau a materion ariannol eraill.  

Y setliad cyllideb refeniw i ysgolion

Y prif fater i'r Fforwm ei ystyried fydd y cyfle i gynnig cyngor i'r Awdurdod ar gyllidebau ysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol ac i ddod â sylw'r Awdurdod at y pwysau ariannol sydd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Wrth wneud hynny gall y Fforwm ystyried yr effaith a gaiff y setliad cyllideb blaenorol ar ysgolion, ystadegau ariannu cymharol a chyfleusterau ariannu allanol.

Y fformiwla dosbarthu

Mae'r rheoliadau'n darparu i'r Awdurdodau Lleol ymgynghori â'r Fforwm ar newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr Awdurdod ac effaith ariannol unrhyw newidiadau.

Contractau

Noda'r rheoliadau fod yn rhaid i'r Awdurdod Lleol ymgynghori â'r Fforwm ar gontractau i gyflenwyr a gwasanaethau sy'n uwch na'r trothwy cyfredol ar gyfer caffael. Y trothwyon cyfredol ar gyfer Caffaeliadau, yr ymdrinnir â nhw dan gyfarwyddebau caffael yr Undeb Ewropeaidd, a'r Rheoliadau sy'n eu gweithredu yn y DU, yw: 

  • Gwasanaethau: £172,514
  • Cyflenwadau: £172,514
  • Gwaith: £4,322,012 

Materion ariannol

Bydd angen i'r Awdurdod hefyd ymgynghori â'r Fforwm yn flynyddol ar gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â chyllideb yr ysgol a newidiadau i gynlluniau ariannol. Mae hefyd yn ymgynghori â'r Fforwm ar unrhyw faterion eraill yn ymwneud ag ariannu ysgolion.