Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gyflogwr y Cyflog Byw er 2015 ac rydyn ni o'r farn bod talu'r Cyflog Byw yn ddangosydd allweddol o ymrwymiad cyflogwr i arferion gwaith teg.
Dyna pam ein bod yn gweithio i hyrwyddo'r Cyflog Byw ar draws y gymuned fusnes leol ehangach.
Ein nod yw cynorthwyo ac annog cynifer o fusnesau lleol â phosibl i ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw i'w cyflogeion.
Rydym yn cynnig cymorth ariannol o hyd at £825 i fusnesau yng Nghaerdydd sydd â hyd at 250 o weithwyr os ydynt yn dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Bydd y cynllun yn berthnasol i bob cyflogwr sy'n meddiannu eiddo annomestig yn ardal Cyngor Caerdydd ac sy'n atebol am dalu Trethi Busnes a heb fod mewn diffyg ariannol.
Faint o grant sydd gen i hawl iddo?
Mae lefel y cymorth ariannol a gallwch ei gael yn d
ibynnu ar ba fath o sefydliad ydych chi a sawl cyflogai sydd gennych. Gallech hawlio hyd at £825.
| Math o Sefydliad | 0 i 10 cyflogeion | 11 i 50 cyflogeion | 51 i 250 cyflogeion |
|---|---|---|---|
| Sector preifat | £207 | £411 | £825 |
| Sector cyhoeddus ac elusennau | £207 | £411 | £825 |
Hawlio'r grant
I fod yn gymwys am y grant, rhaid i'ch busnes sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd gael ei achredu gan Sefydliad y Cyflog Byw. Mae ffi fechan am hyn - gweler y tabl isod. Mae'r cymorth ariannol a gynigir yn daliad untro, ac ni ellir ei ôl-ddyddio, a bydd ar sail y cyntaf i'r felin nes i ni ddyrannu hyd at £50,000. Os oes gennych ddiddordeb:
- Gwnewch gais i gael eich achredu
- Cwblhau'r cais (Word doc, 66 KB)
- telerau ac amodau (PDF, 129 KB)
- Anfonwch gopi o'ch cytundeb trwydded achrededig a'ch cais wedi'i gwblhau i [email protected].
- Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch i ddweud faint o gymorth ariannol y mae gennych hawl i'w gael.
Cost achrediad i Sefydliad y Cyflog Byw
O fis Ebrill 2026
| Math o Sefydliad | 0 i 10 cyflogeion | 11 i 50 cyflogeion | 51 i 250 cyflogeion | 251 i 500 ecyflogeion | 500+ cyflogeion |
|---|---|---|---|---|---|
| Sector preifat | £100 | £150 | £290 | £590 | £3,640 |
| Sector cyhoeddus ac elusennau | £100 | £150 | £290 | £590 | £590 |
Achredu
I ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig swyddogol, mae angen i chi gwblhau ffurflen fer i gadarnhau eich bod yn talu'r Cyflog Byw i'ch holl staff a bod gennych gynllun i dalu unrhyw un sy'n gweithio ar eich safle, fel glanhawyr a chontractwyr, y cyflog byw. Mae hyn yn sicrhau y gall y bobl ar waelod eich cadwyn gyflenwi dalu am eu hanghenion sylfaenol.
Cynnal Cymru yw corff achredu swyddogol Sefydliad y Cyflog Byw yng Nghymru. Mae achredu'n broses gyflym, a chaiff trwyddedau eu prosesu ymhen 10 diwrnod gwaith.
