Mae gan blant hawl i le rhan amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.
Gallwch chwilio am eich meithrinfa agosaf a chofrestru'ch plentyn am le ar ein tudalen derbyn i ysgol feithrin.
Os nad oes llefydd ar gael mewn ysgol feithrin neu feithrinfa leol o fewn dwy filltir i le mae'ch plentyn yn byw, gallwch wneud cais am gyllid y blynyddoedd cynnar.
Beth mae'n ei dalu amdano?
Bydd yn talu am gost lle meithrin rhan amser yn unrhyw un darparwyr gofal plant y mae Cyngor Caerdydd yn eu cydnabod:
| Ysgol Feithrin/Grŵp chwarae | Cyfeiriad | Rhif ffôn |
|---|---|---|
| Gofal Plant Cwtch Childcare | Ysgol Gynradd Coed y Gof, Pentre-baen | 07954646097 |
| Cylch Meithrin Y Parc | Capel Salem, Market Road, Treganna, CF5 1QE | 07794065522 |
| Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd | Neuadd y Sgowtiaid, Penlline Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 2AD | 07474651141 |
| Miri Mawr | 19 Heol Gabalfa, Ystum Taf, CF14 2JH | 02920 560109 |
| Si-Lw-Li (Whitchurch) | 24 Park Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BQ | 02920 626720 |
| St Aubins (Welsh Unit) | 503A Cowbridge Road, Treganna, CF5 1BB | 02920 222227 |
| Cylch Meithrin Rhiwbeina | Festri, Capel Bethal, Maes Y Deri, Rhiwbeina CF14 6JJ | 02920 521 270 |
Sut i wneud cais am arian
I gael ffurflen gais hwyr cysylltwch â, neu ffoniwch:
Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi?
Rhaid bod y plant yn byw yng Nghaerdydd, a bydd angen i chi gyflwyno tystysgrif geni'ch plentyn. Efallai bydd angen i chi hefyd ddangos datganiad treth gyngor i ni, a bil cyfleustodau diweddar, fel tystiolaeth o'ch cyfeiriad.
Ar ôl i ni gytuno rhoi'r arian, byddwn yn talu'r ysgol feithrin neu'r feithrinfa y mae eich plant yn mynd iddi'n uniongyrchol.
Pa gymorth arall sydd ar gael?
Os oes gennych blentyn hyd at 3 blynedd 11 mis oed a'ch bod yn byw yng Nghaerdydd, efallai y gallech gael lle gofal plant rhan amser am ddim drwy raglen Dechrau'n Deg. Ewch i derbyn i ysgol feithrin a nodwch eich cod post i weld a allech fanteisio arno.
