Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhaglenni'r blynyddoedd cynnar

Dysgwch am rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd ledled y ddinas i helpu i gefnogi plant a'u teuluoedd.

Dechrau'n Deg

Mae gan Dechrau'n Deg ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant hyd at 3 blynedd 11 mis oed sy'n byw mewn rhai rhannau o Gaerdydd. Ewch i wefan Dechrau'n Deg i gael rhagor o wybodaeth a gweld a allwch fanteisio arnynt.

 

Iaith a Chwarae

Mae hwn yn gwrs chwe wythnos i helpu rhieni neu ofalwyr a'u plant.

Mae'n canolbwyntio ar gyfathrebu, iaith a llythrennedd drwy chwarae, ac mae'n seiliedig ar y themâu canlynol:

  • pwysigrwydd siarad â phlant
  • arferion bob dydd
  • yr awyr agored
  • llyfrau a straeon
  • caneuon a rhigymau
  • sgiliau cyn ysgrifennu

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal ym mhob ardal Dechrau'n Deg i deuluoedd â phlant hyd at 3 blynedd 11 mis oed, a gallwch ymuno am ddim.

Mae Iaith a Chwarae ar gael mewn nifer o ysgolion i blant oedran meithrin, a rhai dosbarthiadau derbyn. Pe hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â ni.

 

Teuluoedd yn Dysgu gyda'i Gilydd

Rhaglen ysgol gynradd sydd am wella sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg plant a'u rhieni neu ofalwyr.

Mae'r rhaglen yn helpu rhieni i ddysgu mwy am waith ysgol eu plentyn, a bod o gymorth iddynt ei helpu gartref yn fwy hyderus.

Mae cyrsiau'n amrywio o bedair sesiwn hyd at ddiwrnod yr wythnos am un tymor ysgol, ac maent am ddim i ysgolion a rhieni.

Gallai rhieni a gofalwyr ennill tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol am gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â [email protected].

 

Canolfannau chwarae i blant

Mae hefyd nifer o ganolfannau a chynlluniau chwarae i blant ledled Caerdydd i blant o bob oed, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau o gelf a chrefft i chwaraeon a gemau.

 

Cysylltu â ni