Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Asesiad digonolrwydd gofal plant

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gynghorau arolygu faint o ofal plant sydd yn yr ardal a llunio adroddiad manwl i ddangos a oes digon o ofal plant i gefnogi rhieni i weithio neu hyfforddi. Os oes bylchau, rhaid i'r Cyngor ddangos sut y mae'n bwriadu cefnogi darparwyr gofal plant i sefydlu gwasanaethau gofal plant newydd i lenwi'r bylchau hyn. Gelwir hyn yn Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant neu'r ADGP.

Gallwch darllen yr ADGP llawn (PDF, 12 MB) ar ar y wefan hon, ond gan ei bod yn ddogfen hir (tua 300 tudalen) gyda llawer o ddata mewn tablau a graffiau, rydym wedi cynhyrchu'r fersiwn fyrrach hon sy'n dangos y canfyddiadau pwysicaf, y camau gweithredu arfaethedig.

Beth a wnaethom ni

Cafodd Cyngor Caerdydd wybodaeth am ddarpariaeth gofal plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu gofal plant.

Roedd y wybodaeth hon yn cynnwys manylion am leoliad, nifer a math y ddarpariaeth gofal plant; yr iaith a ddefnyddir yn y lleoliadau gofal plant; nifer y plant sy'n mynychu ac unrhyw leoedd gwag neu restrau aros.

Mae'r ADGP hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau ddadansoddi'r wybodaeth yn ôl y mathau o ddarpariaeth gofal plant (e.e. gwarchodwyr plant, meithrinfeydd) a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu (e.e. sesiwn y bore, ar ôl ysgol, gofal dydd llawn) i ddeall a oes rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau neu fathau penodol o ddarparwyr gofal plant, a ble yng Nghaerdydd y mae unrhyw restrau aros.

Ardaloedd Cynllunio Cymdogaethau

Er mwyn rhannu Caerdydd yn ardaloedd daearyddol, defnyddiodd yr ADGP Ardaloedd Cynllunio Cymdogaethau (ACC) y Cyngor, ac mae pob un ohonynt yn cynnwys nifer o wardiau a ddangosir yn y tabl isod.

Edrychwyd ar nifer gyffredinol y lleoedd gwag neu blant ar restrau aros ym mhob ACC, yn ôl y math o ddarpariaeth gofal plant ac yn ôl gwasanaeth.

Felly pe bai 10 o blant yn aros am le mewn clybiau y tu allan i'r ysgol ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ysgol, ond bod 15 lle gwag gyda gwarchodwyr plant ar gyfer gwasanaeth ar ôl ysgol yn yr ACC honno, byddai 5 lle gwag yn gyffredinol o hyd ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ysgol.

Ardal Cynllunio Cymdogaethau
ACCWardiau Etholiadol
Gogledd Caerdydd
  • Rhiwbeina,
  • Y Mynydd Bychan,
  • Llys-faen,
  • Llanisien,
  • Cyncoed,
  • Pen-y-lan,
  • Pentwyn,
  • Pontprennau, a
  • Phentref Llaneirwg
Dwyrain Caerdydd
  • Llanrhymni,
  • Tredelerch, a
  • Trowbridge
De-ddwyrain Caerdydd
  • Gabalfa,
  • Cathays (rhan ohoni),
  • Plasnewydd,
  • Adamsdown, a
  • Y Sblot
Canol a De Caerdydd
  • Canol y Ddinas,
  • Butetown,
  • Grangetown, a
  • Cathays (rhan ohoni)
De-orllewin Caerdydd
  • Trelái,
  • Caerau,
  • Treganna, a
  • Glan-yr-afon
Gorllewin Caerdydd
  • Creigiau a Sain Ffagan,
  • Pentyrch,
  • Radur a Phentre-poeth,
  • Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais,
  • Y Tyllgoed,
  • Llandaf, a
  • Ystum Taf

Yr hyn a ganfuwyd gennym a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud

Mae canfyddiadau'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn dangos bod digon o ofal plant ar draws Caerdydd gan mwyaf i ddiwallu anghenion rhieni sy'n gweithio neu'n ymgymryd â hyfforddiant. Fodd bynnag, mae'r data'n dangos bod rhywfaint o alw heb ei fodloni mewn rhai ardaloedd, ar gyfer rhai mathau o ddarpariaeth gofal plant ac o ran gwasanaethau gofal plant penodol. Dangosir y camau gweithredu arfaethedig mewn print trwm o dan bob canfyddiad.

Galw posibl heb ei fodloni

Mae niferoedd is o ddarpariaeth gofal plant yn Nwyrain Caerdydd o gymharu â Chaerdydd yn gyffredinol, a rhestrau aros am wasanaethau penodol mewn pedair ACC arall (Gogledd Caerdydd, Canol a De Caerdydd, De-orllewin Caerdydd a Gorllewin Caerdydd).

Ein cam cyntaf fydd cynnal ymchwil fanwl bellach gyda'r darparwyr gofal plant yn yr ardaloedd hyn i wirio bod y wybodaeth yn gywir, ac i weld a all darparwyr gofal plant presennol gynyddu nifer y lleoedd y maent yn eu cynnig i fodloni'r angen hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn ceisio annog darparwyr gofal plant i agor lleoliad newydd.

Darpariaeth Gymraeg

Mae'r data'n nodi'r galw cyfrwng Cymraeg posibl am sesiynau bore yng Ngogledd Caerdydd; sesiynau gofal dydd a Chylch Meithrin llawn yng Ngorllewin Caerdydd; a gofal ar ôl ysgol yn Ninas a De Caerdydd, De-orllewin Caerdydd a Gorllewin Caerdydd.

Mae cyfleoedd ac arian, sy'n gysylltiedig â chynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Caerdydd i ddatblygu neu ehangu gofal plant Cymraeg sy'n gysylltiedig ag ysgolion cynradd Cymraeg.

Byddwn yn hyrwyddo cyrsiau blas ar y Gymraeg ar gyfer y gweithlu gofal plant a'r blynyddoedd cynnar er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r niferoedd isel o warchodwyr plant Cymraeg a sgiliau Cymraeg cyfyngedig llawer o staff gofal plant.

Fforddiadwyedd

Mae fforddiadwyedd yn parhau i fod yn fater allweddol i lawer o deuluoedd sydd eisiau neu sydd angen cael gofal plant.

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn bartneriaid allweddol wrth wella gwybodaeth rhieni a gofalwyr am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i helpu gyda chostau gofal plant. Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen ar rieni ar gael ar wefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd ac mewn llyfryn i rieni.

Caiff mwy o leoliadau eu hannog i gofrestru i gynnig Gofal Plant di-dreth i helpu rhieni sy'n gweithio.

ADY, AAA ac anabledd

Dengys data nad yw pob lleoliad gofal plant yn ymwybodol o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'u cyfrifoldebau.

Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth darparwyr gofal plant a'i gwneud yn haws iddynt gael cyngor, cymorth, arweiniad a hyfforddiant, er mwyn ymateb i anghenion plant.

Cymorth i'r sector gofal plant

Mae adborth gan ddarparwyr gofal plant yn dangos eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr gofal plant cymwys.

Mae cyfleoedd i weithio gyda Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor ac Addewid Caerdydd i gyfrannu at gefnogi'r sector.

Gwella ansawdd, cywirdeb a chysondeb data

Daeth yn amlwg wrth edrych ar y data nad oedd pob lleoliad gofal plant wedi deall y cyfarwyddiadau yn yr un modd. Mae hyn yn golygu efallai nad yw rhywfaint o'r data a ddefnyddir i gynhyrchu'r ADGP wedi bod yn gwbl gywir.

Mae angen gwaith i sicrhau bod y diweddariadau blynyddol, ac Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn y dyfodol yn cael eu llywio gan y data mwyaf cywir posibl, felly er nad yw'n fater i Gaerdydd yn unig, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i wella cywirdeb data.