Gellir diffinio cyd-nerthu cymunedol drwy ddweud: "Cymunedau ac unigolion yn defnyddio'u hadnoddau a'u harbenigedd lleol i'w helpu mewn argyfwng, mewn modd sy'n ategu ymateb y gwasanaethau brys."
Mae cyd-nerthu cymunedol yn rhan o amryw gymunedau ac mae'n newid ac esblygu yn barhaus. Tra bod ewyllys da pobl mewn argyfwng ar y diwrnod yn hollbwysig, erbyn hyn mae pobl yn cymryd camau, fel unigolion ac ar y cyd, i baratoi eu hunain ymlaen llaw cyn bod argyfwng yn digwydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi paratoi dogfen sy'n darparu cyfarwyddyd i gymunedau ar baratoi cynlluniau argyfwng i gymunedau ac aelwydydd, gellir gweld y cyfarwyddyd drwy ddilyn y ddolen isod.
Paratoi ar gyfer Argyfungau - Canllaw ar gyfer Cymenedau
Gall cymryd un neu ddau o gamau cyn i argyfwng ddigwydd helpu i'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel.
Ystyriwch y canlynol:
Gosodwch larymau mwg yn eich eiddo.
Lluniwch gynllun gadael mewn argyfwng. (Paratoi ar gyfer Argyfungau - Canllaw ar gyfer Cymenedau)
Siaradwch gyda'ch teulu a ffrindiau a threfnwch "Gyfaill Argyfwng", sef eich pwynt cyswllt cyntaf pe bai rhaid i chi adael eich cartref a chadw'ch teulu a chi eich hun yn ddiogel. Byddech chi a'ch teulu yn fwy cyffyrddus gyda ffrindiau neu deulu nag y byddech mewn Canolfan Argyfwng/orffwys wedi ei drefnu gan y Cyngor.
Paratowch fag i fynd yn cynnwys manylion cyswllt hanfodol a chyflenwad o fwyd, meddyginiaethau hanfodol i aelodau'r teulu neu i anifeiliaid anwes. Efallai yr hoffech chi hefyd gynnwys copïau o ddogfennau pwysig fel dogfennau yswiriant neu Gardiau/cofnodion brechu anifeiliaid anwes. (gwybodaeth bellach ar gael yn y ddogfen Paratoi ar gyfer Argyfungau - Canllaw ar gyfer Cymenedau)
Sicrhewch eich bod yn cynllunio i gadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel. Peidiwch byth â pheryglu eich diogelwch er mwyn achub anifeiliaid anwes mewn argyfwng lle byddwch chi eich hun mewn perygl, ond chi sy'n gyfrifol am les eich anifeiliaid anwes.
Beth am gael ffrind wrth law i helpu'ch anifail anwes, efallai na all y ffrind roi llety i'ch teulu mewn argyfwng, ond efallai y byddan nhw'n barod i edrych ar ôl ci neu gath tan i chi allu mynd adref neu drefnu lloches iddyn nhw. Mae mwy o wybodaeth ar les anifeiliaid i'w gael ar wefan yr RSPCA neu os yw anifail mewn gofid gallwch ffonio'r RSPCA ar: 0300 1234 999
