Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pwyllgor craffu adolygu polisi a pherfformiad

Mae Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad yn adolygu:

  • Comisiynu a Chaffael,
  • Cyfathrebu,
  • Datblygu Polisïau Strategol,
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
  • Perfformiad,
  • Adfer ac Adnewyddu Sefydliadol,
  • Cynllun Datblygu Lleol,
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu,
  • Adnoddau Dynol,
  • Cyllid,
  • Ymgynghori a Chyfranogi,
  • Ymgysylltu,
  • Cydraddoldeb,
  • TGCh a Gwasanaethau Cwsmeriaid,
  • Digidol,
  • Eiddo ac Ystadau'r Cyngor,
  • Cynllun Corfforaethol,
  • Lleoliadau.

Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adolygu Polisi.

Mae aelodau Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.

Fideo o'r Cynghorydd David Walker, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.

Gwaith craffu parhaus

Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.

 

Gwaith craffu yn y gorffennol

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Adroddiadau ymchwiliad

Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.

Adroddiadau Ymchwil

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.

  • Arferion meincnodi a dichonoldeb, 2014
  • Adolygiad o Effaith Craffu Cyngor Caerdydd gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau CFPS, 2018
  • Methodolegau ar gyfer Asesu Effaith Craffu, 2019