Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pwyllgor craffu gwasanaethau oedolion a chymunedol

Mae'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn adolygu:

  • Anableddau Corfforol,
  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion,
  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
  • Budd-daliadau,
  • Diogelwch Cymunedol,
  • Gwasanaethau Cymunedol,
  • Trosedd ac Anhrefn,
  • Tai,
  • Iechyd Meddwl,
  • Adnewyddu Cymdogaethau,
  • Diogelu

Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion.

Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.

Fideo o'r Cynghorydd Shaun Jenkins, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.

Gwaith craffu parhaus

Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.

 

Gwaith craffu yn y gorffennol

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Adroddiadau ymchwiliad

Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.

Crynodeb o ‘Cymorth i Breswylwyr gyda Chostau Byw’ Cyngor Caerdydd (PDF, 699 KB)

  • Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau (Tachwedd 2018 - adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
  • Llety Dros Dro ac â Chymorth - Porth Pobl Sengl (Ionawr 2019)
  • 'Yn Nes Adref': Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir i Oedolion ag Anabledd Dysgu (Chwefror 2021)
  • Cymorth Cyngor Caerdydd i Drigolion gyda Chostau Byw (Ionawr 2023)

Adroddiadau Ymchwil

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.

  • Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl' (2015). Dadansoddiad o Ymatebion i'r Arolwg, 2015
  • 'Anghenion Gwybodaeth a Chymorth i Rieni ar y Prosiect "Agosach at Adre" ar gyfer Oedolion Ifanc ag Anableddau Dysgu; 2019.
  • Papur Briffio Cefndir ar Droseddau Cyffuriau yng Nghaerdydd a Chymru, 2021