Mae'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn adolygu:
- Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
- Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol
- Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion,
- Gwasanaethau Cymorth Ysgolion,
- Cludiant Ysgolion,
- Anghenion Addysgol Arbennig,
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, a
- Gwella Ysgolion,
- Diogelu,
- Cydweithfa Fabwysiadu Ranbarthol,
- Gwasanaethau Chwarae,
- Gwasanaethau Llywodraethwyr,
- Lles a Chynhwysiant Addysgol,
- Consortia Addysg,
- Datblygiad yn y Blynyddoedd Cynnar,
Gweler rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc.
Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Fideo o'r Cynghorydd Lee Bridgeman, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.
Gwaith craffu parhaus
Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gwaith craffu yn y gorffennol
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
Crynodeb Adroddiad yr Ymchwiliad i Leoliadau y Tu Allan i'r Cyngor (PDF, 495 KB)
- Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir (Mai 2018)
- Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau - Adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion (PCGCO)
- Cymorth a Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles Plant
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Arolwg ar Hyfforddiant a Chymorth i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghaerdydd, 2014
- Gwybodaeth gymharol am y prosesau atgyfeirio ac asesu mewn awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a Lloegr, 2015
- Arfer Gorau ac Argymelledig wrth Fynd i'r Afael â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant, 2015
