Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pwyllgor craffu'r economi a diwylliant

Mae Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn adolygu:

  • Rhandiroedd,
  • Cymorth Busnes,
  • Y Fargen Ddinesig,
  • Diwylliant,
  • Yr Economi,
  • Digwyddiadau,
  • Awdurdod yr Harbwr,
  • Hybiau,
  • Hamdden,
  • Llyfrgelloedd,
  • Dysgu Gydol Oes,
  • Prosiectau Mawr,
  • Parciau,
  • Chwaraeon,
  • Twristiaeth,
  • Lleoliadau

Gweler rhagor o wybodaeth am y Bwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant .

Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.

Fideo o'r Cynghorydd Nigel Howells, Cyn-Gadeirydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.

Gwaith craffu parhaus

Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi datblygu eu rhaglen waith.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.

 

Gwaith craffu yn y gorffennol

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Adroddiadau ymchwiliad

Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.

Adroddiadau Ymchwil

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.

  • Adroddiad arolwg ar ganfyddiadau'r cyhoedd o Farchnad Ganolog Dan Do Caerdydd ac Arcedau Siopa Hanesyddol, 2014
  • Profiadau Awdurdodau Lleol wrth Gadw Ardrethi Busnes, 2017