Ein nod yw ymgorffori dull gweithredu Dinas sy'n Dda i Blant ar draws y cyngor ymhellach.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori'r dull gweithredu hwn ar draws gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno atebion parhaol i broblemau cymhleth. Mae'n rhaid i ddileu'r rhwystrau sy'n atal rhai o'n pobl ifanc rhag pontio'n llwyddiannus i fyd gwaith, cyflawni'r canlyniadau gorau i blant sydd yn ein gofal a helpu pobl ifanc i fyw'n annibynnol fod yn flaenoriaeth i bawb.
Bydd hyn yn ei wneud yn ofynnol i bartneriaid weithio gyda'i gilydd i greu dinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus.
