I roi gwybod am fin olwynion sydd wedi torri neu ar goll ac archebu un arall, cysylltwch â ni.
Cofiwch ein bod yn codi tâl am finiau olwynion sydd wedi mynd ar goll neu wedi cael eu dwyn.
- Mae bin olwynion du newydd yn costio £25.
- Mae bin olwynion gwyrdd newydd yn costio £35.
Ffôniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.
Os yw'ch bin wedi disgyn i'n cerbyd
Os yw'ch bin yn disgyn i gefn un o'n cerbydau casglu, byddwn yn postio cerdyn trwy'ch blwch llythyrau i roi gwybod i chi beth sydd wedi digwydd.
Ein nod yw disodli'r bin cyn eich casgliad nesaf.
Nid oes angen i chi gysylltu â ni.
Os ydym wedi difrodi'ch bin
Os ydym wedi achosi difrod i'ch bin wrth gasglu, byddwn yn rhoi sticer ar y bin i roi gwybod i chi fod bin newydd ar y ffordd.
Ein nod yw disodli'r bin cyn eich casgliad nesaf. Tra byddwch chi'n aros am eich bin newydd, gadewch eich bin wedi'i ddifrodi allan i'w gasglu.
Byddwn yn mynd ag e gyda ni pan fyddwn yn danfon eich bin newydd.
