Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Anifail marw

Os byddwch yn dod o hyd i anifail marw ar unrhyw ffordd neu balmant sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor, rhowch wybod i ni amdano.

Byddwn yn casglu anifeiliaid marw ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin gyda pharch a sensitifrwydd. Os yw'n bosibl, byddwn yn gwirio am ddulliau adnabod. Mae cathod a chŵn yn cael eu cludo i Gartref Cŵn Caerdydd, lle mae staff yn eu sganio am ficrosglodion i geisio adnabod a chysylltu â'r perchennog. Rydym yn cydnabod yr anhawster emosiynol y mae hyn yn ei achosi i berchnogion anifeiliaid anwes.

Os nad oes microsglodyn yn cael ei ddarganfod, rydym yn dilyn gweithdrefnau sefydledig ar gyfer gwaredu anifeiliaid marw.