Perygl o ddamwain neu anaf
Os ydych chi'n gweld problem ar y ffordd neu'r palmant sy'n debygol o achosi damwain neu anaf difrifol, ffoniwch ni.
Dywedwch wrthym am broblem gyda chelfi stryd
Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi i ni. Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym am broblemau megis:
- meinciau wedi'u difrodi,
- standiau beiciau,
- bolardiau,
- rhwystrau neu reiliau, a
- biniau graean neu halen.
Gallwch dynnu sylw at y lleoliad ar y map, ychwanegu lluniau a rhoi disgrifiad i'n helpu i leoli ac ymdrin â'r broblem.
Bydd eich adroddiad cyflawn yn cael ei anfon yn syth i'n tîm priffyrdd i ymchwilio iddo.
