Mae'r Cynghorydd Michael Michael wedi'i urddo'n Arglwydd Faer newydd Caerdydd.
Y Cynghorydd Michael yw'r 122ain person a'r Cypriad Groegaidd cyntaf i ddal swydd Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd. Cyflwynwyd y cadwyni maer swyddogol iddo mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd ddydd Iau 21 Mai.
