Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Teddy Swims - 26 Mehefin 2026

Torf fawr mewn cyngerdd

Lleoliad: Caeau'r Gored Ddu
 

Bydd cyfres o gyngherddau yn cael eu cynnal yng Nghaeau'r Gored Ddu dros yr haf - fel rhan o Blackweir Live.

Ar gyfer cyngerdd Teddy Swims ddydd Gwener 26 Mehefin, bydd ffyrdd ar gau ar hyd rhan o Heol y Gogledd a'r strydoedd cyfagos rhwng 4pm a hanner nos.

Cau ffyrdd

Ar gyfer y cyngerdd hwn, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4pm a hanner nos:

  • Stryd y Castell (o'r gyffordd â Heol y Porth)
  • Heol y Dug
  • Ffordd y Brenin

Bydd y rhannau canlynol o'r ffordd hefyd ar gau rhwng 4pm a hanner nos:

  • Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i Boulevard de Nantes. 
  • Boulevard de Nantes, i'r gyffordd â Phlas y Parc. Bydd bysus yn cael mynediad trwy Blas y Parc a Boulevard de Nantes ac i Heol Tŷ'r Brodyr i gael mynediad i Heol y Brodyr Llwydion. 
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, o Heol y Gadeirlan drwodd i'r gyffordd â Heol y Porth, gyda mynediad i Heol y Porth yn cael ei ganiatáu.
     

Canolfan Ddinesig

Bydd mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd o 7am.

Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: 

  • Rhodfa'r Brenin Edward VII
  • Rhodfa'r Amgueddfa
  • Heol Neuadd y Ddinas
  • Heol y Coleg 
  • Heol Gerddi'r Orsedd

Bydd y troad i'r dde o Heol Colum i mewn i Heol Corbett yn cael ei atal hefyd pan fydd y ffyrdd ar gau i ganiatáu a rheoli mynediad i drigolion a busnesau oddi ar Heol Corbett.​

 

Trenau

​Gwybodaeth i'r rhai sy'n teithio ar y trên. 
 

Great Western Railway

Bydd GWR yn ychwanegu cerbydau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i ddychwelyd i Fryste yn dilyn cyngherddau Blackweir Live.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngherddau.

Dylai'r rhai sy'n teithio'n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref, ar wefan Great Western Railway.
 

Trafnidiaeth Cymru 

Mae TrC wedi darparu capasiti ychwanegol lle bo'n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer holl ddigwyddiadau Blackweir, gyda gwasanaethau hwyrach wedi'u trefnu i ddarparu ar gyfer mynychwyr.

O 10pm, bydd gorsaf Cathays a phont yr orsaf yn cau - bydd teithwyr yn cael eu cyfeirio naill ai i orsaf Caerdydd Canolog neu orsaf Heol y Frenhines Caerdydd.

Bydd system giwio ar waith i deithwyr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd. Gall cwsmeriaid y Cymoedd ddefnyddio'r naill orsaf neu'r llall a bydd manylion ciwio yn cael eu rhannu cyn bo hir. 

Anogir teithwyr yn gryf i flaengynllunio a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith, a phrynu tocynnau rheilffordd ymlaen llaw. 

Bydd gwybodaeth lawn yn cael ei rhannu ar wefan Trafnidiaeth Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
 

Tocynnau a thalu wrth fynd

​Mae talu wrth fynd ar gael ar wasanaethau TrC a Thraws Gwlad ar rwydwaith Metro De Cymru (ddim yn ddilys ar GWR). Dysgwch fwy am ddefnyddio talu wrth fynd i deithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

Parcio a theithio

​Nid oes unrhyw wasanaethau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

Parcio ar a diwrnod

Gwybodaeth am barcio ar ddiwrnod digwyddiad.

​Y Ganolfan Ddinesig

Parcio ar gyfer ceir a choetsys.​​​

  • ​Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r Ganolfan Ddinesig. 
  • Cost: £20 i geir a £30 i goetsys. Mae taliadau cerdyn ar gael.  
  • Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.  
     

Gerddi Sophia

Parcio ar gyfer ceir.​

  • ​​Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4.
  • Cost: £20 i geir. Mae taliadau cerdyn ar gael. ​
  • ​Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.​

Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau. ​​


Parcio i siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:

  • Canolfan Siopa Dewi Sant
  • John Lewis
  • Canolfan Siopa Capitol
  • NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Parcio i bobl anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i barcio yn y Ganolfan Ddinesig yn yr ardal parcio digwyddiad bwrpasol â thâl.

Fodd bynnag, mae parcio bathodyn glas ar gael ar sail y cyntaf i'r felin ar hyd Plas y Parc a Maes yr Amgueddfa.

 

Bysus

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.

Bydd mynediad ar gyfer bysus a thacsis yn cael ei gynnal ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, Stryd y Castell, Heol y Dug a Ffordd y Brenin, yn ogystal â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Gadeirlan a Heol y Porth. Mae hyn er mwyn helpu torfeydd i adael yr ardal yn ddiogel.

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol:

Er y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn parhau i fod ar agor, bydd gwyriadau ffyrdd lleol ar waith a dylai teithwyr edrych ar wefannau gweithredwyr unigol am fanylion llawn.

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Traffyrdd a chefnffyrdd

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - felly cynlluniwch ymlaen llaw.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X (Twitter) a Facebook.

 

Tacsis

Bydd man codi a gollwng tacsis pwrpasol ar gael yn y Ganolfan Ddinesig wrth yr Amgueddfa Genedlaethol.

Mae gyrwyr tacsis yn cael gwybod na chaniateir iddynt ollwng na chodi teithwyr ar Heol y Gogledd, gan y byddant yn achosi tagfeydd diangen a rhwystr i fodurwyr eraill.

 

Beicio neu cerdded

Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond bydd Beicffordd Heol y Gogledd yn cael ei dargyfeirio i hwyluso'r gwaith o osod a datgymalu ar gyfer y digwyddiad.

Ar ddiwrnodau cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i'r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.

Bydd lle parcio beiciau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig.

Dysgwch fwy am feicio a cherdded yng Nghaerdydd.

 


Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am gyngherddau Blackweir Live ar gael ar wefan Newyddion Caerdydd.