Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Parcio mewn parth rheoli parcio

Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw Parth Rheoli Parcio (PRhP).

Pan fyddwch mewn parth, rhaid i chi barcio mewn mannau dynodedig.

Dysgu lle mae'r parthau rheoli parcio.

Pam mae angen parthau rheoli parcio arnom

Rydym yn cyflwyno PRhP i ddelio â phroblemau parcio a gwneud ein hamgylchedd yn fwy diogel trwy:

  • wneud cyfyngiadau'n syml,
  • cadw lle parcio i breswylwyr ac ymwelwyr,
  • stopio cymudwyr rhag parcio,
  • annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,
  • gwella diogelwch y priffyrdd, a
  • gwella amodau parcio i'r gymuned.

Dysgu sut rydym yn dylunio ac yn cyflwyno PRhP.

 

Cyfyngiadau PRhP

Byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i mewn i PRhP yn ôl yr arwyddion mawr ar y stryd. Bydd yr arwyddion yn dangos yr amseroedd pan fydd cyfyngiadau llinell felen sengl a chyfyngiadau eraill yn weithredol.

Mae'r rhan fwyaf o'n PRhP yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos ond gall cyfyngiadau newid yn dibynnu ar yr ardal.

Rhaid i chi wirio'r arwyddion. Mae cyfyngiadau llinellau melyn dwbl, troedffyrdd isel a chyrbau isel yn berthnasol 24 awr y dydd.

 

Trwyddedau

Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer:

  • preswylwyr a'u hymwelwyr,
  • busnesau,
  • staff ysgol hanfodol,
  • contractwyr,
  • gofalwyr, ac
  • adeiladau crefyddol a chymunedol.

Mae'r mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi yn dibynnu ar y parth rydych ynddo. Dysgu mwy am PRhP yng Nghaerdydd.

Eiddo nad ydynt yn gymwys i gael trwydded

Ni all pob eiddo wneud cais am drwyddedau. Mae hyn yn ein helpu i reoli parcio ar y stryd, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, a lleihau effaith cartrefi a datblygiadau newydd.

Mae'r eiddo nad ydynt yn gymwys yn cynnwys:

  • eiddo a ddatblygwyd ar ôl 1 Medi 2011
  • eiddo gyda meysydd parcio oddi ar y stryd
  • eiddo ar ffordd breifat
  • eiddo sydd wedi'u hadeiladu neu eu haddasu heb ganiatâd cynllunio
  • llety myfyrwyr
  • datblygiadau dim ceir

Cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth, prynu eiddo, neu sefydlu busnes, rhaid i chi wirio a yw'r eiddo'n gymwys i gael trwyddedau.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth anghywir a roddwyd i chi gan landlord, asiant gosod eiddo neu asiant eiddo.

 

Parcio'n gywir mewn PRhP

Dysgwch sut i barcio'n gywir mewn PRhP.

Parcio gyda thrwydded

Gallwch ddefnyddio trwydded ddilys i barcio mewn mannau ac ardaloedd i ddeiliaid trwydded yn unig.

Mae angen trwydded arnoch i barcio mewn ardal parcio â thrwydded, er nad oes mannau parcio wedi eu paentio ar y ffordd.

Mewn rhai PRhP efallai y gallwch barcio gyda'ch trwydded mewn mannau aros cyfyngedig neu fannau talu ac aros. Mannau defnydd a rennir yw'r rhain.

Efallai y bydd rhai mannau trwydded o hyd lle mai dim ond defnyddwyr penodol a gaiff barcio ynddynt, fel meddygon. Os oes gennych fath gwahanol o drwydded, ni allwch barcio yn y mannau hyn.

Rhaid i chi wirio'r arwyddion pryd bynnag y byddwch yn parcio.

Parcio heb drwydded

Os nad oes trwydded gennych, gallwch barcio yn y mannau canlynol:

  • mannau talu ac aros, a
  • mannau aros cyfyngedig.

Os ydych am barcio mewn man talu ac aros, rhaid i chi brynu tocyn.

Gallwch barcio mewn man aros cyfyngedig heb drwydded a heb dalu, ond ni ddylech aros yn hirach na'r hyn a ganiateir. Rhaid i chi wirio'r arwyddion i weld am ba hyd y gallwch barcio.

Parcio gyda bathodyn glas

Os oes bathodyn glas gennych, gallwch barcio mewn man neu ardal i ddeiliaid trwydded preswylwyr am hyd at 3 awr. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn a'ch cloc parcio yn glir.

Gallwch barcio mewn mannau talu ac aros ac aros cyfyngedig am ddim a heb derfynau amser. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn yn glir.

Dysgwch fwy am barcio gyda bathodyn glas ac arddangos eich bathodyn yn gywir.