Os ydych chi'n gymwys am y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Os ydych eisoes yn derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy roi bil i ni sydd hyd at 12 mis oed a darparu manylion banc.
Faint o amser sydd gen i i wneud cais?
Rhaid eich bod yn derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu wedi gwneud cais llwyddiannus am y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi a LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.
Gwneud cais
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi o'r 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos eich manylion banc yn glir.
