Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut y caiff gostyngiad y dreth gyngor ei gyfrifo

Mae maint y gostyngiad yn dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion.

Byddwn yn cyfrifo faint o arian sydd ei angen arnoch i fyw, yn seiliedig ar amgylchiadau eich teulu. Os yw'ch incwm yn fwy na'ch anghenion - yn ôl ffigurau'r llywodraeth - bydd faint o fudd-dal a gewch yn cael ei leihau.

Gallai eich gostyngiad gael ei leihau hefyd os oes oedolion eraill yn byw yn eich tŷ.

Dysgwch sut i wneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor.

Sut y caiff Gostyngiad y Dreth Gyngor ei ddyfarnu

Os bydd eich cais yn llwyddianus, cewch Ostyngiad y Dreth Gyngor o'r diwrnod y cafwyd eich cais.

Bydd swm y gostyngiad yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Treth Gyngor yn awtomatig. Bydd bil newydd yn cael ei anfon atoch, yn dangos eich balans a'ch taliadu newydd.

Unwaith y cewch wybod am eich gostyngiad gallwch ofyn i ni sut y gwnaethom ein penderfyniad. Gallwch herfyd ofyn i ni ailystyried os ydych o'r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad. Dysgwch sut i apelio yn erbyn penderfyniad