Venue: Principality Stadium
Dydd Sul 28 Mehefin, bydd ffyrdd ar gau'n lawn o amgylch Stadiwm Principality rhwng 3pm a ganol nos i sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i'r cyngherddau hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn Stadiwm Principality, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau fel rhan o'r trefniant cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas am 3pm tan ganol nos.
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhamon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl:
- Heol y Dug,
- Stryd y Castell,
- Stryd Fawr,
- Heol Eglwys Fair,
- Stryd Caroline,
- Stryd Wood,
- Y Sgwâr Canolog,
- Heol y Porth,
- Stryd y Cei,
- Plas y Neuadd,
- Y Gwter,
- Heol y Parc,
- Stryd Havelock, a
- Heol Scott.
Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
Bydd Rhodfa'r Orsaf hefyd yn cau am gyfnod byr i ganiatáu i Orsaf Heol y Frenhines weithredu'n ddiogel am 1 awr 30 munud ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben (tua 10:15pm i 11:45pm).
Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys:
- Rhodfa'r Brenin Edward VII,
- Rhodfa'r Amgueddfa,
- Heol Neuadd y Ddinas,
- Heol y Coleg, a
- Heol Gerddi'r Orsedd.
Yn ogystal, bydd Heol Penarth (ger y bont rhwng cefn yr orsaf a chanol y ddinas) ar gau 30 munud cyn i'r cyngherddau orffen ac am hyd at awr ar ôl iddyn nhw orffen er diogelwch teithwyr trên sy'n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.
Trenau
Gwybodaeth i'r rhai sy'n teithio ar y trên.
Great Western Railway
Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi cyngherddau'r haf. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon, gyda digon o leoedd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf. Bydd meysydd parcio gorsaf Caerdydd Canolog ar gau.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngherddau ac fe fydd system giwio ar waith y tu allan i'r orsaf i helpu pobl i gyrraedd y trenau'n ddiogel.
Os ydych chi'n teithio'n bellach, gwiriwch wasanaethau cyswllt ar wefan Great Western Railway.
Trafnidiaeth Cymru
Bydd TrC yn darparu capasiti ychwanegol lle bo'n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd. Anogir pob teithiwr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith.
Bydd system giwio lawn ar waith gyda theithwyr yn teithio i'r Cymoedd neu Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl y digwyddiad. Bydd yr holl giwiau eraill, gan gynnwys Glynebwy a Maesteg, yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd ciwio'n dechrau o 9:45pm yn y ddwy orsaf gyda'r ciw hygyrchedd ar gael yn Caerdydd Canolog.
Tocynnau a thalu wrth fynd
Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yn y ddwy orsaf a dylai teithwyr sicrhau eu bod wedi prynu eu tocyn trên cyn mynd i mewn i'r system giwio.
Mae talu wrth fynd ar gael ar wasanaethau TrC a Thraws Gwlad ar rwydwaith Metro De Cymru (ddim yn ddilys ar GWR). Dysgwch fwy am ddefnyddio talu wrth fynd i deithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Parcio a theithio
Bydd y cyfleuster parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico, ar Rhodfa Ryngwladol, yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd Tresilian.
Bydd y maes parcio yn agor am 10am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 10:30am a'r bws olaf yn gadael canol y ddinas am hanner nos.
Cost: £15 y car.
Parcio ar y diwrnod
Gwybodaeth am barcio ar ddiwrnod digwyddiad.
Y Ganolfan Ddinesig
Parcio ar gyfer ceir a choetsys.
- Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r Ganolfan Ddinesig.
- Cost: £20 i geir a £30 i goetsys. Mae taliadau cerdyn ar gael.
- Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Gerddi Sophia
Parcio ar gyfer ceir.
- Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4.
- Cost: £20 i geir. Mae taliadau cerdyn ar gael.
- Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio i siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:
- Meysydd Parcio Heol y Gogledd
- Canolfan Siopa Dewi Sant
- John Lewis
- Canolfan Siopa Capitol
- NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i bobl anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Buses
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol:
Bydd Cyfnewidfa Fysus Caerdydd yn cau yn unol â chau ffyrdd.
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Traffyrdd a chefnffyrdd
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - felly cynlluniwch ymlaen llaw.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X (Twitter) a Facebook.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.
Beicio neu cerdded
Bydd y llwybrau beicio a'r llwybrau beicio dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y cyngherddau. Fodd bynnag, oherwydd nifer y bobl a ddisgwylir, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw. Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio'n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw'n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Dysgwch fwy am feicio a cherdded yng Nghaerdydd.
