Nod y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi'r sgiliau allweddol a'r hyder i ddisgyblion ag ADY deithio'n annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae angen i'r person ifanc fod:
- yn byw yng Nghaerdydd,
- yn 19 oed neu'n iau,
- â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) neu ddatganiad, ac
- yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim, p'un a yw'n ei defnyddio ai peidio.
Os nad yw person ifanc yn bodloni'r meini prawf, efallai y byddwn yn dal i allu ei gefnogi drwy rannau o'r flwyddyn academaidd.
Hyfforddiant teithio 1 i 1
Bydd y person ifanc a'r hyfforddwr yn gweithio gyda'i gilydd dros dri cham. Bydd hyfforddiant yn digwydd unwaith yr wythnos fel y cytunir gyda'r rhieni neu'r gwarcheidwaid a'r person ifanc. Bydd y tîm hyfforddiant teithio yn rhoi gwybod i'r tîm trafnidiaeth ysgol pa ddiwrnod mae'r person ifanc yn hyfforddi.
Hebrwng - cam 1
Yn y bore, bydd yr hyfforddwr yn hebrwng y person ifanc o'i gyfeiriad cartref i'r ysgol, y coleg neu ddarpariaethau ADY. Yn y prynhawn, bydd yr hyfforddwr yn hebrwng y person ifanc o'r ysgol neu'r coleg i'w gyfeiriad cartref.
Mae'r cam hwn yn canolbwyntio ar:
- fagu hyder wrth deithio, a
- sicrhau bod y person ifanc yn gwybod y llwybr.
Cysgodi - cam 2
Mae'r cam hwn yn galluogi'r hyfforddwr i gysgodi'r person ifanc ar ei daith. Yna gall asesu lefelau sgiliau. Hyd nes y bydd y person ifanc yn ddigon cyfforddus i symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd yr hyfforddwr yn parhau i'w hebrwng.
Cwrdd a chyfarch - cam 3
Ar y cam hwn, bydd yr hyfforddwr yn cwrdd â'r person ifanc mewn lleoliadau penodol ar y llwybr. Er enghraifft, safleoedd bws a gatiau ysgol.
Pan fydd y person ifanc yn hyderus, bydd yr hyfforddwr yn gadael iddo deithio'r llwybr cyfan yn annibynnol. Bydd yr hyfforddwr yn hysbysu'r rhieni neu'r gwarcheidwaid bod y person ifanc wedi cyrraedd yn ddiogel, ar ôl cwrdd ag ef wrth y gatiau.
Bydd yr hyfforddiant yn parhau hyd nes y gall y person ifanc deithio'n annibynnol.
Pan fydd yn hyderus i deithio ar ei ben ei hun, gall wneud cais am bàs blynyddol i deithio o amgylch y ddinas.
Gweithdai ymarferol
Rydym yn cynnig hyfforddiant i grwpiau o bobl ifanc ag ADY nad ydynt efallai'n gymwys i gael hyfforddiant 1 i 1. Bydd 6 sesiwn yn cael eu cynnal yn ystod amser ysgol ac yn canolbwyntio ar:
- gynllunio teithiau o'r ysgol i ganol dinas Caerdydd,
- cynllunio teithiau i'r coleg,
- diogelwch ar y ffyrdd,
- ymddygiad priodol, ac
- ymarfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gan yr hyfforddwyr amrywiaeth o gynlluniau gwersi ac adnoddau y gellir eu cyflwyno i grwpiau o 2 i 8 o bobl ifanc. Bydd yr hyfforddwyr yn teilwra'r sesiynau i weddu i bob grŵp. Rydym yn argymell sesiynau grŵp o flwyddyn 6 i flwyddyn 11.
Os ydych yn credu y byddai'r hyfforddiant hwn yn helpu plentyn neu berson ifanc, cwblhewch y ffurflen gais:
Gwnewch gais am Gynllun Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol
Cysylltwch â ni os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun.
