Gallwch gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cynghori o Hybiau Caerdydd.
Dewch o hyd i'ch Hyb neu Lyfrgell leol.
Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith
Mae'r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth digidol i unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwchsgilio.
Gall y gwasanaeth gynnig cymorth a chyngor ar:
- Ysgrifennu CV
- Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol
- Chwilio am Swydd
- Cymorth cyflogaeth
- Technegau cyfweld
- Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol
- Hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim
- Cyllid gofal plant, teithio a threuliau eraill (yn dibynnu ar gymhwysedd)
- Dechrau eich busnes eich hun
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Cyfleoedd lleoliadau gwaith
Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol
Os ydych chi'n cael trafferth rheoli eich arian, gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol Caerdydd gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, gwneud y gorau o incwm a rheoli dyledion.
Gwasanaeth Cynghori Caerdydd
Mae Gwasanaeth Cynghori Caerdydd (GCC) yn cynnwys y Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd, annibynnol, cyfrinachol am ddim i bawb ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
Gall y gwasanaeth roi cymorth ar:
- Fudd-daliadau Lles
- Dyled
- Tai
- Teulu a pherthnasoedd
- Cyfraith Cyflogaeth
- Mewnfudo
- Gwahaniaethu a
- Materion Defnyddwyr
Cymerwch olwg ar restr o leoliadau ac oriau agor Gwasanaeth Cynghori Caerdydd.
