Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaethau llyfrgell

Fel aelod o'r llyfrgell gallwch gael mynediad at ein hadnoddau electronig yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau llyfrgell eraill.

Dysgwch sut i ymuno â llyfrgell.

Gweld y rhestr lawn o ffioedd a thaliadau llyfrgell.

Chwiliwch, cadwch neu adnewyddwch ar-lein.


Mae llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys:
 

Mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd

Cynigiwn WiFi am ddim ym mhob un o'n llyfrgelloedd, heblaw am Dongwynlais.

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus am ddim yn y lleoliadau hyn.

Mae ein cyfrifiaduron yn cynnig:

  • mynediad i'r rhyngrwyd, a
  • rhaglenni Microsoft Office.

Gallwch archebu amser ar gyfrifiadur hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw. Bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch rhif cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein hargraffwyr cyhoeddus. Gweld y rhestr lawn o ffioedd llyfrgell a thaliadau am gost fesul dalen.

Rydym hefyd yn cynnig argraffu WiFi ym mhob un o'n llyfrgelloedd, ac eithrio Tongwynlais. Gan ddefnyddio'r swyddogaeth 'argraffu dogfen' ar ein system archebu, gallwch anfon dogfen at argraffydd llyfrgell o unrhyw le.

 

Deunyddiau llafar (llyfrau sain)

Os ydych chi'n aelod o lyfrgelloedd Caerdydd gallwch fenthyg eLyfrau digidol ac eLyfrau Llafar o gysur eich cartref 24 awr y dydd. Gweler mwy o fanylion o dan 'Adnoddau electronig'.

Gallwch hefyd fenthyg deunyddiau llafar o'n holl lyfrgelloedd ar CD. Os nad yw'r teitl rydych ei eisiau gennym yn eich llyfrgell leol, efallai y gallwch ei roi ar gadw mewn llyfrgell arall a gofyn iddo gael ei anfon i'ch cangen leol i'w gasglu.

I gael gwybod pa deitlau sydd gennym a sut i'w cadw, ewch i'n catalog ar-lein neu ewch i'ch cangen leol.

Gweler ein tudalen dirwyon a thaliadau llyfrgell am fanylion.

Os oes anabledd gweledol gennych gallwch fenthyg deunyddiau llafar yn rhad ac am ddim. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r rhai sydd ag anableddau print fel dyslecsia.

 

Adnoddau electronig gan gynnwys e-Lyfrau

Gallwch fenthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar, papurau newydd a chylchgronau gan:

  • BorrowBox,
  • Libby gan OverDrive, a
  • PressReader.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, ond nid yw Amazon Kindle yn gweithio.

I bori, benthyg a chadw llyfrau bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch. Os ydych chi wedi anghofio'ch PIN, cysylltwch â ni.

Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi'n ei wybod.


Hygyrchedd

Gallwch ddefnyddio swyddogaethau darllenydd sgrin fel VoiceOver a TalkBack gyda'r adnoddau hyn.

Os oes angen i chi ddefnyddio meintiau testun mwy wrth ddarllen, efallai y bydd yn anodd gwneud testun yn fwy wrth ddefnyddio rhannau o'r apiau.

Gallwch hefyd gael mynediad i'r adnoddau hyn ar y we, gan ddefnyddio gosodiadau chwyddo eich porwr i wneud i'r holl destun ymddangos yn fwy.

Darllenwch fwy am yr adnoddau hyn a sut i gael mynediad atynt ar-lein:


BorrowBox

Mae BorrowBox yn ei gwneud hi'n hawdd pori, benthyg a darllen eLyfrau ac eLyfrau Llafar y llyfrgell. Mae BorrowBox ePress hefyd yn cynnig detholiad eang o bapurau newydd y DU, gan gynnwys teitlau poblogaidd sy'n lleol i Gymru. Gallwch:

  • fenthyg hyd at 10 eLyfr, 10 eLyfr llafar a 50 o deitlau eWasg ar unrhyw adeg, a
  • benthyg y rhan fwyaf o eitemau am hyd at 14 diwrnod.

Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap BorrowBox o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play.


Libby gan OverDrive

Mae Libby, gan OverDrive, yn ap am ddim sy'n eich galluogi i fenthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar o'r llyfrgell.

Gallwch gadw neu lawrlwytho hyd at 16 o eLyfrau, ac eLyfrau Llafar am ddim drwy Libby. Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 21 diwrnod.

Os ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap Libby gan OverDrive o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play.

Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i wefan OverDrive. Gallwch:

  • ddarllen eLyfrau yn eich porwr,
  • lawrlwytho eLyfrau ar ffurf EPUB gan ddefnyddio Adobe Digital Editions,
  • wrando ar eLyfrau Llafar yn eich porwr, neu
  • eu lawrlwytho fel ffeil MP3.


PressReader

Gallwch gael gafael ar bapurau newydd a chylchgronau digidol drwy PressReader.

Os ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap Press Reader o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play.

Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i wefan PressReader.

Gallwch hefyd gael gafael ar bapurau newydd PressReader drwy ddefnyddio'r tab 'extras' ar yr ap Libby, gan OverDrive. Nid yw cylchgronau PressReader ar gael drwy'r ap Libby.


eGyfeirio

Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau cyfeirio eraill ar-lein drwy gatalog y llyfrgell.

Mae'r deunyddiau eGyfeirio sydd ar gael yn cynnwys:

  • IELTS,
  • Papurau newydd hanesyddol trwy Gale Primary Resources a'r British Newspaper Archive,
  • Archif Papurau Newydd Digidol y Times, a
  • Bywyd yn y DU: Ffordd Prydain o Fyw.

Os ydych chi'n defnyddio'r rhain o gartref neu drwy ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun, efallai y bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Dim ond o un o gyfrifiaduron yr Hybiau a'r llyfrgelloedd y gellir defnyddio'r adnoddau canlynol:

  • Find My Past
  • Ancestry.com - Fersiwn Llyfrgell


Kanopy

Mae Kanopy yn wasanaeth ffrydio fideos, sy'n rhoi mynediad i ystod wych o ffilmiau a chyfresi teledu. O ffefrynnau gwyliau ffilm i sioeau comedi llwyddiannus, mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys adran Kanopy Kids gyda sioeau, darllen stori a mwy. Gallwch hefyd osod rheolaethau rhieni.

Cofrestrwch gan ddefnyddio rhif a PIN eich cerdyn llyfrgell a dechreuwch bori'r catalog heddiw. Lawrlwythwch yr ap neu ewch i wefan Kanopy.

Sut mae'n gweithio: Mae benthyg pob teitl yn defnyddio credydau. Ar ôl i chi ddewis teitl, fe welwch faint o gredydau y mae'n eu defnyddio a pha mor hir sydd gennych i'w wylio. Fel arfer, bydd cyfres gyda sawl pennod yn defnyddio mwy o gredydau a bydd mwy o amser i'w gwylio nag un ffilm.

Mae terfyn misol ar gredydaugan fod gennym derfyn cyffredinol fel gwasanaeth llyfrgell.

Os bydd eich credydau yn dod i ben, bydd mynediad yn dod i ben, gan ddechrau eto ar y 1af o'r mis nesaf.

 

Ystafelloedd i'w llogi

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan yr Hybiau am eich llyfrgell neu Hyb lleol, ac edrych am ystafelloedd cymunedol neu gyfleusterau cyfarfod sydd ar gael i'w llogi.

 

Ysgolion

Rydym wrth ein bodd yn cael ymweliadau dosbarth ac yn hapus i siarad ag athrawon neu staff eraill yr ysgol i wneud trefniadau. Cysylltwch â'ch hyb neu lyfrgell leol yn uniongyrchol.


Benthyg llyfrau

Os ydych chi'n athro, gallwn sefydlu cyfrif llyfrgell arbennig i chi fenthyg nifer fwy o lyfrau ar gyfer eich dosbarth.

Mae sawl teitl o lyfrau penodol ar gyfer darllenwyr iau hefyd ar gael fel rhan o'n casgliadau grwpiau darllen. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

 

Grwpiau darllen

Os ydych chi'n aelod o grŵp darllen, yn chwilio am un yn eich ardal leol neu'n ystyried sefydlu un hyd yn oed, dyma beth allwn ni 'neud i chi:

  • eich helpu i ddod o hyd i grŵp darllen sy'n cwrdd ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i chi,
  • hysbysebu eich grŵp i aelodau newydd,
  • argymell llyfrau gwych i chi eu darllen,
  • rhoi hyd at 15 copi o'r un llyfr i chi, y gallwch eu cadw am hyd at 6 wythnos, a
  • cynnig llwyth o weithgareddau hwyl drwy gydol y flwyddyn.

Am fwy o fanylion gofynnwch yn eich Hyb neu lyfrgell leol.

 

Gwasanaeth i rai caeth i'w tŷ

Rydym yn rhedeg gwasanaeth sy'n dod â'r llyfrgell i'ch stepen drws os ydych chi wedi'ch analluog gan:

  • salwch,
  • llesgedd,
  • anabledd,
  • gwella ar ôl llawdriniaeth, neu
  • ynysu hirdymor,

ac na allwch deithio i'ch llyfrgell leol yn annibynnol mwyach na chario llyfrau adref.

Mae'r gwasanaeth yn galw bob 4 wythnos i ddosbarthu a chasglu llyfrau cyffredin neu print bras, a lyfrau llafar.

Ar ôl cyfweliad cychwynnol i nodi'r anghenion a'ch chwaeth ddarllen, gallwch:

  • naill ai rhoi rhestr o lyfrau yr hoffech eu darllen i'r gyrrwr, neu
  • gael llyfrau wedi eu dewis ar eich cyfer gan ein llyfrgellydd profiadol a gwybodus.

Os oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch archebu eich hoff lyfrau a'u cael wedi eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac ar waith ledled Caerdydd.

Dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ar gael ac mae yna restr aros weithiau.

Os na allwch gyrchu Gwasanaethau Llyfrgell yn bersonol, cysylltwch â Gwasanaeth Danfoniadau Cartref y Llyfrgell Allgymorth.

Ffôn: 029 2087 1333

E-bost: [email protected].

 

Y Llyfrgell Genedlaethol

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau electronig, o gylchgronau ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.

Gallwch gofrestru i:

  • Gael tocyn darllenwyr cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a
  • Chael mynediad o bell i adnoddau electronig y Llyfrgell cyn belled â'ch bod yn byw yng Nghymru.

Gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ni allwch gofrestru heb gyfeiriad cartref yng Nghymru.

 

Llyfrgelloedd Cymru

Gallwch ddefnyddio Llyfrgelloedd Cymru i:

  • Chwilio'r catalog o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru
  • Dod o hyd i ddigwyddiadau llyfrgell y tu allan i Gaerdydd
  • Archwilio eLyfrau, eLyfrau Llafar, cylchgronau digidol a phapurau newydd digidol yn Fy Llyfrgell Ddigidol
  • Dod o hyd i lyfrgell
  • Darllen newyddion a straeon

Ewch i wefan Llyfrgelloedd Cymru.

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaethau llyfrgell, neu os ydych wedi anghofio eich PIN, gallwch gysylltu â ni drwy'r ffurflen hon.

Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi'n ei wybod.

Cysylltu â ni