Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Diogelwch ar gyfer teithwyr tacsi

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am drwyddedu cerbydau Hacni (tacsis), cerbydau llogi preifat, a'u gyrwyr.

Mae pob un o'n gyrwyr yn gorfod cyflawni gwiriadau troseddol a meddygol i sicrhau eu bod yn gymwys i fod yn yrwyr trwyddedig.

Mae'r holl gerbydau trwyddedig yn cael eu profi'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel.

I sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel dylech bob amser ofalu eich bod yn defnyddio cerbyd trwyddedig gyda gyrrwr trwyddedig.

Mae gyrwyr trwyddedig yn gwisgo bathodyn adnabod gyda'u llun a manylion y drwydded arno. Caiff un bathodyn ei wisgo gan y gyrrwr ac mae un arall yn cael ei arddangos ar ffenestr flaen y cerbyd ar ochr y teithiwr.

I gyrraedd pen eich taith yn ddiogel dylech:

  • Sicrhau eich bod yn talu'r ffi briodol os ydych mewn tacsi
  • Archebu cerbyd llogi preifat ymlaen llaw drwy gwmni llogi preifat
  • Gofyn os gall y lleoliad drefnu tacsi/cerbyd llogi preifat ar eich rhan a gadael i chi aros y tu mewn tan iddo gyrraedd
 Cerbydau HacniCerbydau Llogi Preifat
Math o garDu a gwyn neu math Tacsi LlundainAmryw fathau o modelau
Arwydd toArddangos arwydd to TacsiDdim yn arddangos arwydd to
Plât TrwyddedPlât gwyn ar gefn y cerbydPlât melyn ar gefn y cerbyd
Sut i achebuModd ei alw o fin y fforddAngen ei archebu rhag blaen

Safleoedd Tacsi

Defnyddiwch y safleoedd tacsis ar:

  • Lôn y Felin
  • Heol Eglwys Fair (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
  • Heol y Brodyr Llwydion (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
  • Plas-y-Parc
  • Ffordd Churchill
  • Tredegar Street
  • Cei'r Fôr-Forwyn
  • Stryd Albert
  • Gorsaf Caerdydd Canolog

Gwneud cwyn

Os yw gyrwr cerbyd hacni wedi gwrthod mynd â chi oherwydd bod eich taith yn rhy fer, neu os nad yw'r gyrrwr neu'r cerbyd (cerbyd hacni neu logi preifat) yn bodloni eich disgwyliadau, gallwch roi gwybod am hynny i Is-adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd.